Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r newyddion gwych ein bod wedi rhoi dros 100,000 o frechlynnau.
Rydym mor falch o’n timau brechu sy’n gweithio’n galed iawn i weinyddu brechlynnau mor ddiogel a chyflym â phosib. Mae eu hymdrech arbennig wedi chwarae rhan allweddol yn sicrhau’r cyfle gorau o imiwnedd i’r 100,000 o bobl sydd bellach wedi derbyn eu brechlyn.
Hoffem ddiolch i’r cyhoedd am eu hamynedd, dealltwriaeth a chefnogaeth barhaus wrth i ni weithio drwy ein rhestrau blaenoriaeth.