Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad System Unffordd yn Ysbyty Nevill Hall

Dydd Mercher 12 Ebrill 2023 - Dechrau'r System Unffordd

Wrth i waith barhau ar Ganolfan Radiotherapi Lloeren Ysbyty Nevill Hall ar hyd y safle, bydd y system unffordd yn dod i rym o Ddydd Llun 17 Ebrill 2023.

Yn ystod y cyfnod hwn, sylwch ar y canlynol:

  • Bydd arwyddion priodol i gyfeirio traffig o amgylch y system unffordd. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno nifer o arwyddion Dim Mynediad.
  • Annogir staff ac ymwelwyr i ddefnyddio'r prif fynediad i gerbydau o Heol Aberhonddu.
  • Bydd y llwybr bws yn newid - bydd yn mynd i mewn ar hyd Heol Aberhonddu ac yn gadael ar hyd Heol yr Undeb. O ganlyniad, mae'r safle bws o fewn y safle wedi cael ei adleoli i ochr arall y ffordd.
  • Ni fydd gerbydau sy'n troi i'r chwith wrth fynd i mewn i'r safle o Heol Aberhonddu yn gallu gyrru trwy'r safle heibio'r Uned Mân Anafiadau. Bydd mynediad yn cael ei gyfyngu i'r Uned Mân Anafiadau yn unig.
  • Defnyddir system dwy ffordd yn y prif faes parcio.
  • Defnyddir system dwy ffordd o Heol yr Undeb, ond wrth fynd i mewn i'r safle, bydd angen i bob cerbyd ymuno â'r system unffordd.

Mae'r delwedd isod yn amlinellu'r newidiadau i'r llif traffig:


Dydd Llun 9 Ionawr 2023

Rydym yn falch iawn bod ein Huned Radiotherapi Lloeren newydd gwerth £38 miliwn yn Ysbyty Nevill Hall wedi'i gymeradwyo, y mae disgwyl iddo gael ei gwblhau a'i weithredu erbyn Rhagfyr 2024.

Bydd gwaith ar y prosiect yn dechrau ar Ddydd Llun 16 Ionawr 2023, fydd yn golygu rhai newidiadau hanfodol i'r ddarpariaeth parcio ceir a rheoli'r traffig drwy safle Nevill Hall a gall effeithio ar gleifion, staff ac ymwelwyr sy'n cyrraedd yr ysbyty mewn car.

Ar ôl cwblhau'r cyfnod cyn adeiladu (Cyfnod 1) diwedd y llynedd, bydd y cyfnod adeiladu nawr yn dechrau.

Dyma fanylion y newidiadau allweddol:

  • Bydd safle'r contractwyr yn cael ei sefydlu o Ddydd Llun 16 Ionawr, a fydd yn defnyddio tua hanner maes parcio'r Ganolfan Ôl-raddedig bresennol, yn ogystal â rhai mannau parcio ar ardal MRI, hen glinig Cynenedigol a'r fynedfa gyfagos i'r ysbyty.
    • Bydd y gwaith i ynysu'r mannau parcio yr effeithir arnynt yn dechrau ar Ddydd Sadwrn 14 Ionawr, ac o Ddydd Llun 16 Ionawr, ni fydd cleifion, staff ac ymwelwyr yn gallu mynd i mewn nac ymadael drwy'r fynedfa hon.
    • Dylai cleifion ac ymwelwyr sy'n gwneud eu ffordd eu hunain i'r Uned Derbyniadau Meddygol gael mynediad drwy Brif Fynedfa'r ysbyty.

 

  • Bydd System Unffordd yn cael ei gweithredu er mwyn darparu ar gyfer y safle adeiladu a'r cerbydau adeiladu mawr sy'n mynd i mewn ac yn gadael safle'r ysbyty. Bydd gwaith i weithredu hyn yn digwydd rhwng 16eg a 30ain Ionawr.

Mae'r delwedd isod yn amlinellu'r newidiadau i'r llif traffig:

 

  • Ar Bwynt 1 ar y cynllun- y mynediad presennol o Ffordd Aberhonddu - dim ond cerbydau sydd angen mynediad i'r Uned Mân Anafiadau fydd yn gallu troi i'r chwith wrth iddyn nhw fynd i mewn i'r safle.
  • Bydd traffig dwy ffordd yn dal yn bosib rhwng Pwynt 1 a 2 ar y cynllun, ond bydd y system unffordd yn gweithredu rhwng Pwynt 2 a Phwynt 4, bydd yn un ffordd yn unig.
  • Bydd cerbydau'n dal i allu mynd i mewn ac allan o'r safle o Ffordd yr Undeb, ond bydd angen i gerbydau sy'n mynd i mewn droi i'r dde ar Bwynt 3 ar y cynllun lle mae'r ffordd yn ymuno â'r system unffordd. Anogir cerbydau i ddefnyddio mynedfa Heol Aberhonddu.
  • Bydd cerbydau cludiant cyhoeddus yn dod i'r safle o Ffordd Aberhonddu gan adael ar hyd Heol yr Undeb.
  • Bydd y rhan helaeth o'r ffordd bresennol rhwng Pwyntiau 1, 2, 3 a 4 yn cael eu llinellu'n goch a'u concro i atal unrhyw barcio ar hyd y ffordd.

Byddem yn hynod ddiolchgar pe gallai ein cleifion a’n hymwelwyr ystyried ffyrdd eraill o gyrraedd yr ysbyty, yn ystod y cyfnod hwn, megis teithio ar fws, cael eich gollwng, neu rannu lifft. Gofynnwn hefyd i gleifion adael digon o amser i gyrraedd eu hapwyntiad rhag ofn y bydd oedi wrth deithio drwy'r safle.

Ymddiheurwn am yr anghyfleustra y bydd y gwaith anorfod hwn yn ei achosi i’n staff, cleifion ac ymwelwyr, ond bydd yr aflonyddwch dros dro hwn yn arwain at gyfleuster newydd gwych i wasanaethu poblogaeth Gwent.


Dydd Iau 1 Rhagfyr 2022

Oherwydd tywydd anaddas, bydd y gwaith ar y prif faes parcio a oedd i fod i ddigwydd Ddydd Sadwrn 19 a Dydd Sul 20 Tachwedd bellach yn cael ei gwblhau y penwythnos hwn - Dydd Sadwrn 3 a Dydd Sul 4 Rhagfyr 2022. Gweler rhagor o wybodaeth a'r dyddiadau diwygiedig isod..


Dydd Mercher 16 Tachwedd 2022

Gyda disgwyl cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Uned Radiotherapi Lloeren newydd arfaethedig erbyn diwedd y flwyddyn hon, mae hwn yn ddechrau cyfnod cyffrous iawn i Ysbyty Nevill Hall ac i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Yn dilyn cymeradwyaeth, bydd y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Canser newydd gwerth £38 miliwn yn cael ei lleoli ar safle hen Uned Cyn Geni Ysbyty Nevill Hall, a disgwylir ei chwblhau o fewn tua dwy flynedd.

Fel y disgwylir, bydd angen rhywfaint o waith paratoi cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau, a fydd yn golygu rhai newidiadau dros dro hanfodol i'r ddarpariaeth o leoedd parcio a rheoli traffig drwy safle Nevill Hall.

Bydd y newidiadau arfaethedig allweddol yn cael eu gwneud mewn dau gam;

Cyfnod 1 - Cyn-Adeiladu - Dydd Sadwrn 3ydd a Dydd Sul 4ydd o Ragfyr (yn blaenorol yn 19 a 20 Tachwedd)

Bydd gwaith i greu mannau parcio ychwanegol ym mhrif faes parcio'r ysbyty yn digwydd dros benwythnos 3 a 4 Tachwedd (yn blaenorol yn 19 a 20 Tachwedd), fel yr amlinellir isod, sy'n golygu na fydd rhai mannau parcio ar gael dros dro tra bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo dros y penwythnos.

 

Cyfnod 2 - Adeiladu - Dyddiad i'w Gadarnhau

Bydd y safle adeiladu a sefydlir yn defnyddio tua hanner maes parcio presennol y Ganolfan Raddedigion, yn ogystal â rhai mannau parcio yn union gerllaw'r hen glinig Cyn Geni. I liniaru am y lleoedd coll hyn, bydd lleoedd parcio ychwanegol yn cael eu creu drwy ad-drefnu'r prif faes parcio a nodir uchod, a thrwy ychwanegu maes parcio newydd â 75 o leoedd.

Er mwyn lletya'r cerbydau adeiladu mawr, bydd y llif traffig drwy'r safle yn dod yn system unffordd, gyda phob cerbyd (gan gynnwys bysiau) yn gorfod mynd i mewn drwy'r brif fynedfa o Heol Aberhonddu. Ni fydd y fynedfa bresennol trwy Heol Union ar gael - daw hwn yn allanfa yn unig. Bydd hyn hefyd yn golygu efallai na fydd yn bosibl parcio eich cerbyd ar ochr y ffordd o fewn safle’r ysbyty tra bod y gwaith yn mynd rhagddo.

 

Byddem yn hynod ddiolchgar pe gallai ein cleifion a’n hymwelwyr ystyried ffyrdd eraill o gyrraedd yr ysbyty, yn ystod y cyfnod hwn, megis teithio ar fws, cael eich gollwng, neu rannu lifft. Gofynnwn hefyd i gleifion adael digon o amser i gyrraedd eu hapwyntiad rhag ofn y bydd oedi wrth deithio drwy'r safle.

Ymddiheurwn am yr anghyfleustra y bydd y gwaith anorfod hwn yn ei achosi i’n staff, cleifion ac ymwelwyr, ond bydd yr aflonyddwch dros dro hwn yn arwain at gyfleuster newydd gwych i wasanaethu poblogaeth Gwent.