Neidio i'r prif gynnwy

1 o bob 5 o bobl ifanc Gwent yn dweud eu bod wedi rhoi cynnig ar e-sigaréts

Yn ôl arolwg diweddar gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, o blith y bobl ifanc (11-16 oed) a arolygwyd yng Ngwent, fe ddywedodd cynifer ag 1 o bob 5 ohonynt eu bod wedi rhoi cynnig ar e-sigaréts.

 

Mewn ymrwymiad i fynd i’r afael â’r nifer cynyddol o bobl ifanc sy’n defnyddio e-sigaréts trwy ardaloedd Gwent, mae Tîm Iechyd Cyhoeddus Gwent Aneurin Bevan a Chyfarwyddwyr Addysg lleol wedi llunio canllawiau lleol er mwyn cynorthwyo pobl ifanc i wneud penderfyniadau doeth ynglŷn â’u hiechyd. Caiff y canllawiau newydd eu hanelu’n bennaf at ysgolion a bydd yn helpu ysgolion lleol i ymdrin â defnyddio e-sigaréts yn eu hardal.

 

Medd yr Athro Tracy Daszkiewicz, a benodwyd yn ddiweddar yn Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Rydym yn gweld cynnydd brawychus yn y nifer o bobl ifanc sy’n defnyddio e-sigaréts ledled Gwent. Fel y dengys data diweddar, o blith y rhai a gymerodd ran yn yr arolwg roedd 1 o bob 5 o bobl ifanc 11-16 oed wedi rhoi cynnig ar e-sigaréts.

“Er bod rhai pobl yn defnyddio e-sigaréts i’w helpu i roi’r gorau i ddefnyddio tybaco (a all arwain at effeithiau hynod niweidiol), mae llawer o e-sigaréts yn dal i gynnwys nicotin hynod gaethiwus, yn ogystal â chemegau eraill. Rydym eisiau cynghori pobl ifanc i beidio â dechrau defnyddio e-sigaréts, felly mae ein neges y syml - ‘Ddim yn smygu? Pam fyddech chi’n dechrau defnyddio e-sigaréts?’”

Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd Gwent ym Mwrdd Aneurin Bevan wedi llunio’r canllawiau lleol a’r rhestr adnoddau er mwyn grymuso ysgolion a cholegau i fod yn ddi-fwg. Caiff y canllawiau a’r adnoddau hyn eu cymeradwyo gan y pum Cyfarwyddwr Addysg yng Ngwent.

 

Medd Dr. Luisa Munro-Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg Dros Dro ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn awyddus i wneud popeth o fewn ei allu i helpu ysgolion i ymdrin â’r defnydd cynyddol a wneir o e-sigaréts gan ddisgyblion. Mae’n galonogol gwybod bod Canllawiau Iechyd y Cyhoedd ar Ddefnyddio E-sigaréts ar gyfer Ysgolion a Cholegau yng Ngwent wedi’u datblygu gan Arbenigwyr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a phobl ifanc o Platfform – dyma’r union beth sydd ei angen.

“Rydym wedi rhoi’r canllawiau i’n holl ysgolion ac rydym yn eu hannog i ddefnyddio’r ddogfen fel rhan o’u dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a llesiant, a sicrhau eu bod yn delio’n briodol â’r defnydd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc.”

Hefyd, bydd y canllawiau newydd yn annog rhieni i siarad gyda’u plant am yr effeithiau niweidiol sy’n gysylltiedig â defnyddio e-sigaréts, a byddant yn cynorthwyo pobl ifanc i wneud penderfyniadau cytbwys ynglŷn â’u hiechyd.

 

Yn ôl Eryl Powell, Ymgynghorydd Arweiniol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, Plant a Phobl Ifanc ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Mae hi’n bwysig atgoffa pobl bod defnyddio e-sigaréts yn gallu bod yn niweidiol – er enghraifft, mae pobl wedi sôn am effeithiau byrdymor fel pesychu, penysgafndod, dolur gwddf a chur pen. Nid ydym yn gwybod beth yw’r effeithiau hirdymor eto.

“Mae’r canllawiau lleol hyn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ysgolion er mwyn eu galluogi i roi dull ysgol gyfan ar waith tuag at ddod yn ysgolion di-fwg. Mae hyn yn cynnwys camau y gall ysgolion eu cymryd mewn perthynas â defnyddio e-sigaréts, yn ogystal â chyngor y gallant ei rannu gyda rhieni a chyda’r gymuned.

“Mae gwerthu e-sigaréts i bobl ifanc dan 18 oed yn anghyfreithlon. Os ydych yn gwybod am fanwerthwyr yn eich cymuned sy’n gwerthu e-sigaréts neu gynhyrchion tybaco o unrhyw fath i blant dan 18 oed, rhowch wybod i’r adran Safonau Masnach. Gallwch wneud hyn trwy edrych ar: ‘DIM ESGUS. BYTH. - Rhoi gwybod am werthiant tybaco anghyfreithlon’ (https://noifs-nobutts.co.uk/cy/)