Neidio i'r prif gynnwy

Aduniad Sant Ffolant i Gleifion Priod yn Ysbyty'r Sir

Dydd Sul 14 Chwefror 2021

Da ni'n dathlu Dydd Sant Ffolant gyda stori galonogol Mr a Mrs Sneddon..

Mae John a Barbara Sneddon yn gleifion yn Ysbyty Cymunedol y Sir yn Griffithstown ac yn ddiweddar fe'u hadunwyd gyda'u gilydd cyn Ddydd San Ffolant.

Cyfarfododd John, 91, a Barbara, 89, trwy ffrindiau a phriodon nhw 23 mlynedd yn ôl. Er bod Barbara angen wythnos i feddwl am y peth pan ofynnodd John iddi fynd allan, doedden nhw byth ar wahân ers hynny. Pan dderbyniwyd John i'r ysbyty yng nghanol mis Rhagfyr 2020, yn anffodus bu raid iddo adael ei wraig gartref, lle treuliodd y Nadolig ar ei ben ei hun. Ychydig ar ôl y Nadolig, cwympodd Barbara a derbyniwyd hi i'r Ysbyty ei hun- yn gyntaf i Ysbyty Athrofaol Y Faenor, ac yna i rai o'n Hysbytai Cymunedol unwaith iddi ddechrau gwella.

Wrth iddi gyrraedd fel claf yn Ysbyty Cymunedol y Sir, helpodd Barbara ddeor cynllun gyda staff anhygoel yr Ysbyty i roi syndod i'w gŵr gydag aduniad ar ôl deufis ar wahân. Aed â Mr Sneddon i Ystafell Ddydd Ward Derw, heb iddo wybod y byddai ei wraig yn ymuno ag ef am aduniad rhamantus. Roedd John wedi ei lethu’n llwyr ac wrth ei fodd o weld ei wraig eto, a dywedodd ei fod yn golygu'r ‘byd cyfan’ iddo gael ei aduno â hi.

Ers eu haduniad, mae staff yr Ysbyty wedi bod yn eu helpu i dreulio amser gyda'u gilydd pryd bynnag y bo modd, lle mae John a Barbara wedi bod yn mwynhau rhai o'u prydau bwyd gyda'u gilydd. Y penwythnos hwn, roedd John, a anwyd yn yr Alban, yn falch iawn o ddathlu penwythnos Sant Ffolant gyda'i wraig o Gymru trwy wylio'r gêm Cymru-yr Alban gyda hi (ni fyddwn yn dweud dim am y canlyniad!)

Ar ôl i'r ddau contractio a churo Covid-19, mae Barbara a John ill dau wedi derbyn eu brechiadau ac maent yn gobeithio dychwelyd adref mewn pryd ar gyfer pen-blwydd Barbara yn 90 ar ddiwedd y mis nesaf.

Roedd Mr a Mrs Sneddon yn llawn canmoliaeth i'r holl staff sydd wedi eu helpu dros yr ychydig fisoedd diwethaf, wrth i Barbara gofio iddi gael ei thrin â charedigrwydd llwyr ym mhob Ysbyty. Brysiwch gwella, Mr a Mrs Sneddon!

Roedd Rheolwr Ward Oak, Donna Wigmore, a'r Nyrs Arweiniol, Jo Hook, ymhlith y staff a helpodd i drefnu'r syrpreis rhyfeddol i Mr a Mrs Sneddon. Gwyliwch y fideo hon ohonyn nhw'n trafod sut wnaethon nhw gynllunio'r aduniad Sant Ffolant.

 

 

Isod: John a Barbara Sneddon, yn y llun gyda Rheolwr y Ward, Donna (chwith) ac Uwch Nyrs, Jo (dde)