Neidio i'r prif gynnwy

Agoriad Dros Dro Ysbyty Athrofaol Y Faenor Wrth Ymateb i Coronafeirws

Mae'r heriau sy'n wynebu ein Bwrdd Iechyd a'r GIG yng Nghymru oherwydd Coronafeirws COVID-19 yn ddigynsail. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Laing O'Rourke, rydym yn falch o gyhoeddi bod cynlluniau ar waith i alluogi agoriad rhannol a dros dro Ysbyty Athrofaol Y Faenor, fel rhan o'n hymateb arfaethedig. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn darparu hyd at 350 o welyau ychwanegol i ni erbyn diwedd Ebrill 2020. Mae gwaith bellach ar y gweill i gomisiynu rhannau o'r ysbyty i gwrdd â'r dyddiad cau ar ddiwedd mis Ebrill.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Rydym yn gwneud popeth posibl yng Nghymru i gynyddu gallu ein GIG o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn. O'r herwydd, rwyf wedi cymeradwyo cyllid o hyd at £10m ar unwaith i gyflymu'r broses o adeiladu rhannau o'r Faenor, a fydd yn darparu hyd at 350 o welyau ychwanegol i'w defnyddio erbyn diwedd Ebrill 2020”.

Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, Glyn Jones, “Rydym yn croesawu’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Laing O’Rourke i’n galluogi i wneud defnydd cynharach o’r ysbyty newydd, a fydd yn rhan bwysig o’n cynlluniau lleol wrth ymateb i’r achosion Coronafeirws”.