Neidio i'r prif gynnwy

Ail Arolwg Llesiant Covid-19 Cymru

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cefnogi astudiaeth genedlaethol gyda'r nod o ddeall sut mae'r pandemig Coronafeirws parhaus wedi effeithio ar iechyd meddwl a lles emosiynol pobl ledled Cymru.

 

Cychwynnwyd yr arolwg gan y GIG yng Nghymru yn ôl ym mis Mehefin 2020 mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Abertawe a Chaerdydd a phob un o'r 7 Bwrdd Iechyd ardraws Cymru. Casglodd cam cyntaf yr astudiaeth ddata gan dros 15,000 o unigolion ledled Cymru ac mae canfyddiadau cam cyntaf yr ymchwil wedi helpu'r GIG yng Nghymru i ddeall anghenion iechyd meddwl a lles poblogaeth Cymru. Gallwch ddarllen mwy am y canfyddiadau yma: https://wales-wellbeing.co.uk/cy/covid19-wellbeing-survey-results

 

Mae'r astudiaeth bellach wedi lansio ei hail arolwg sy'n ceisio archwilio sut mae iechyd meddwl a lles poblogaeth Cymru wedi newid yn ystod y pandemig Coronafeirws. Dadansoddir canlyniadau'r arolwg ar lefel genedlaethol, y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod Lleol a chânt eu defnyddio i lywio unrhyw gamau y gallai fod angen i ni eu cymryd o fewn y GIG i gefnogi lles ein poblogaeth wrth inni symud ymlaen.

 

Hoffem annog cymaint o bobl sy'n byw yn ardal y Bwrdd Iechyd i gymryd rhan yn yr arolwg hwn felly meddyliwch am ei gwblhau eich hun a gofyn i'ch teulu a'ch ffrindiau wneud hynny.

 

Gallwch gyrchu'r arolwg trwy'r ddolen ganlynol.

 

Ni ddylai'r arolwg gymryd mwy na 15 munud i'w gwblhau.

 

Diolch yn fawr am ystyried cymryd rhan yn yr arolwg hwn. Rydym yn ddiolchgar iawn.