Mae Dr. Emily Clark yn Gofrestrydd arbenigol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae wedi dewis cael ei brechlyn ffliw y gaeaf hwn er mwyn amddiffyn ei hun a’i babi. Golyga hyn y gall dreulio gweddill ei beichiogrwydd yn paratoi ar gyfer dyfodiad yr un bach.
Dywedodd y Dr. Emily Clark,
“Rwyf yn nhri mis olaf fy meichiogrwydd ac rwy'n gwbl argyhoeddedig fy mod yn rhoi'r dechrau gorau a’r dechrau iachaf mewn bywyd i'm babi.
“Bydd y brechlyn ffliw yn fy amddiffyn rhag y ffliw y gaeaf hwn, a bydd rhywfaint o’r amddiffyniad hwn yn cael ei drosglwyddo i fy mabi hefyd.”
Trwy gael eich brechu, rydych nid yn unig yn diogelu eich hun ond hefyd yn cyfrannu at amddiffyniad ehangach eich cymuned, yn enwedig y rhai sy'n fwy agored i glefydau a allai fod yn ddifrifol.
Mae’r Athro Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Gwent yn esbonio, “Mae’n hanfodol bod pawb sy’n gymwys i gael y brechiadau Ffliw a Covid-19, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl clinigol, yn amddiffyn eu hunain rhag y ffliw y gaeaf hwn trwy gael y brechlyn ffliw am ddim. Nid eich amddiffyn chi yn unig y mae cael brechlyn - mae hefyd yn amddiffyn y rhai o'ch cwmpas.
I'r rheiny sydd â chyflyrau iechyd presennol, megis asthma, diabetes neu COPD gall y ffliw arwain at gymhlethdodau difrifol, hyd yn oed derbyniad i'r ysbyty, mae'n hanfodol bod unrhyw un a allai fod mewn perygl yn glinigol yn cael eu brechlynnau. Y brechlyn ffliw yw’r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o amddiffyn eich hun. Er y gall rhai ddioddef mân sgîl-effeithiau, gallai dal y ffliw y Gaeaf hwn fod yn llawer gwaeth. Peidiwch ag oedi, trefnwch eich amddiffyniad ar unwaith”.
Mae brechiadau yn ffordd syml, diogel ac effeithiol o sicrhau eich bod chi a’ch teulu’n cadw’n iach, ac yn sicrhau eich bod yn rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’ch plant.
Os ydych yn feichiog, rydych yn gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim.
I ddarganfod mwy am frechlynnau ffliw ac i ddarganfod a ydych yn gymwys, ewch i: Brechlynnau Ffliw - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (nhs.wales).