Neidio i'r prif gynnwy

Apiau Hunanreoli GIG Cymru ar gyfer Asthma a COPD

Mae GIG Cymru wedi lansio tri Ap Hunanreoli newydd ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol a chleifion sy'n dioddef o Asthma a COPD.

Wedi'i ddatblygu a'i ddiweddaru gan arbenigwyr mewn Asthma a COPD, bydd yr Apps yn darparu cefnogaeth hirdymor i gleifion helpu i reoli eu cyflwr a helpu cleifion i aros yn iach, gan gynnwys cyngor, addysg a chefnogaeth atodol o ansawdd rhagorol.

Y tri Ap yw:

  1. AsthamaHub - Ap hunanreoli GIG Cymru ar gyfer oedolion ag Asthma
  2. AsthmaHub i rieni - Ap rheoli GIG Cymru ar gyfer rhieni plant ag Asthma
  3. COPDHub - Ap hunanreoli GIG Cymru ar gyfer pobl â COPD

Mae'r Apps hyn bellach ar gael i'w lawrlwytho ar Google Play (Android) a'r App Store (Apple).

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Ap.