Neidio i'r prif gynnwy

Blaenoriaethu Profion Gwaed Frys

Dydd Gwener 27 Awst 2021

Ar hyn o bryd, mae prinder rhyngwladol o diwbiau casglu gwaed a ddefnyddir i gymryd rhai samplau gwaed (profion gwaed) yn effeithio ar wasanaethau'r GIG.

Mae pedair gwlad y DU yn rheoli'r mater hwn, gan gynnwys gwaith i ddod o hyd i ddewisiadau amgen addas i'r cynhyrchion yr effeithir arnynt.

Mae gan y GIG brofiad helaeth o ddelio â materion cyflenwad meddygol, ac yng Nghymru mae'r ymateb yn cael ei arwain gan GIG Cymru, gan weithio gyda chenhedloedd eraill a'r Llywodraeth.

Mae meddygon a chlinigwyr ledled y DU, sy'n gweithio mewn meddygfeydd, ysbytai, gwasanaethau iechyd cymunedol ac iechyd meddwl ac ymddiriedolaethau ambiwlans, wedi cael eu cynghori i ohirio profion gwaed nad ydynt yn hanfodol, ac adolygu cyfnodau o brofion gwaed, ar yr adeg hon. Mae hyn er mwyn cadw cyflenwadau ar gyfer pobl sydd angen profion gwaed ar frys.

Mae diogelwch cleifion yn parhau i fod yn flaenoriaeth, a bydd eich prawf yn cael ei oedi dim ond os yw clinigwr wedi asesu ei bod yn glinigol ddiogel gwneud hynny. Mae clinigwyr yn dilyn arweiniad cenedlaethol, gyda chefnogaeth Grŵp Cyfeirio Clinigol arbenigol y DU.

Dylai pobl sydd angen gofal brys neu heb eu cynllunio barhau i'w geisio yn y ffyrdd arferol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Lywodraeth Cymru.