Neidio i'r prif gynnwy

Buddsoddiad o Bron i £11 Miliwn i Greu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Canser y Fron yng Ngwent

Dydd Gwener 4 Chwefror 2022

Rydym wrth ein bodd bod bron i £11 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn 'canolfan ragoriaeth' canser y fron yn Ysbyty Ystrad Fawr, a fydd yn ein galluogi i wella gofal profiadau a chanlyniadau cleifion.

 

Gweler y cyhoeddiad cyffrous isod gan Lywodraeth Cymru:

Mae bron i £11 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn ‘canolfan ragoriaeth’ ar gyfer canser y fron yn Ysbyty Ystrad Fawr mewn ymgais i wella gofal i gleifion.

Bydd y buddsoddiad yn dwyn gwasanaethau ac arbenigwyr o bob rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ynghyd i ddarparu gofal i gleifion allanol, ymyriadau diagnostig a llawdriniaethau ar gyfer canser y fron.

Bydd y timau clinigol o Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent yn dod ynghyd i ddarparu gwasanaeth mwy gwydn ac effeithiol, mewn cyfleuster pwrpasol, a fydd yn diwallu anghenion pobl Gwent yn well.

Wrth siarad ar Ddiwrnod Canser y Byd heddiw (4 Chwefror), dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan fod y buddsoddiad yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau canser a helpu byrddau iechyd i drawsnewid gwasanaethau clinigol. Y gobaith yw y bydd gwella effeithlonrwydd gwasanaethau yn helpu ymdrechion i leihau amseroedd aros ar gyfer gofal canser.

Daw hyn wrth i’r data diweddaraf am berfformiad a gweithgarwch y GIG ddangos bod lefelau gweithgarwch mewn gwasanaethau canser wedi cynyddu ym mis Tachwedd. Gwelwyd bod nifer y cleifion sydd wedi cael diagnosis newydd o ganser ac wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, wedi cynyddu i’r lefel uchaf ers i ddata cymaradwy ddechrau cael eu casglu ym mis Mehefin 2019.

Yn ogystal â hyn, cynyddodd nifer y cleifion a gafodd wybod nad oes ganddynt ganser, o’i gymharu â’r mis blaenorol, i’r ail lefel uchaf ers i’r data hyn ddechrau cael eu casglu ym mis Rhagfyr 2020.

Bydd y cynlluniau uchelgeisiol hyn yn gwella ansawdd a diogelwch y gofal a gaiff cleifion sy’n defnyddio gwasanaethau gofal y fron; yn darparu model gofal ar gyfer gwasanaethau gofal y fron sy’n gynaliadwy ac yn hyblyg i ymateb i anghenion yn y dyfodol; yn manteisio i’r eithaf ar ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael; ac yn hyrwyddo diagnosis a thriniaeth yn unol ag arferion gorau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

"Bydd y cynlluniau uchelgeisiol hyn yn golygu y bydd gan gleifion yng Ngwent fynediad gwell at ofal o ansawdd uchel a bod modd ymdrin â mwy o bobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser y fron fel achosion dydd, ac felly osgoi derbyniadau i’r ysbyty.

"Wrth inni nodi Diwrnod Canser y Byd, mae’n gyfle i fyfyrio ar yr effaith fawr y mae canser yn ei chael ar ein cymdeithas a thynnu sylw at y buddsoddiadau pwysig rydym yn eu gwneud i sicrhau gofal gwell i gleifion. Byddwn yn parhau i sicrhau bod gwasanaethau canser yn cael y sylw y maen nhw’n eu haeddu wrth inni ddod allan o’r pandemig."

Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Glyn Jones:

"Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gyllido’r cyfleuster newydd anhygoel hwn, a fydd yn garreg filltir allweddol arall yn ein strategaeth Dyfodol Clinigol. Gyda’r ganolfan newydd yn gweithredu fel ‘canolfan ragoriaeth’ ar gyfer gwasanaethau canser y fron, bydd ein clinigwyr arbenigol wedi’u lleoli’n ganolog mewn cyfleuster pwrpasol. Yno byddan nhw’n darparu gofal arbenigol i gleifion sydd â chanser y fron mewn un lle. Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwaith o adeiladu’r cyfleuster yn datblygu dros y misoedd nesaf."


Ysbryd Cymunedol wrth Wraidd Canolfan y Fron Newydd

Disgwylir i'r gwaith o adeiladu'r uned newydd ddechrau'r mis hwn a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Chwefror 2023.

Ynghyd â’r buddsoddiad o £11 miliwn gan Lywodraeth Cymru i adeiladu’r cyfleuster modern, bu ymdrechion aruthrol cymunedau lleol i godi arian yn arwain at £215,000 pellach o gyllid er mwyn inni allu darparu cyfleusterau ychwanegol yn y ganolfan.

Bydd yr arian ychwanegol hanfodol hwn yn cael ei ddefnyddio i sicrhau hynny bod cleifion gofal y fron - dynion a merched - yn cael amgylchedd tawel ac urddasol, lle gallant hwy a'u teuluoedd ddod i delerau â'u diagnosis a'u triniaeth.

Bydd hyn yn cynnwys gwaith celf, goleuadau a dodrefn i greu ystafell aros dawel a chyfforddus; ystafell brosthesis bwrpasol wedi'i dylunio i roi amser ac urddas i fenywod ddewis y ffitiad cywir ar ôl mastectomi; ystafelloedd Cwnsela wedi'u dylunio'n sensitif i gleifion drafod eu diagnosis gyda'r tîm clinigol mewn amgylchedd cyfannol, anghlinigol; a man gweithgareddau Plant i gefnogi rhieni sy'n mynychu apwyntiadau clinigol.

Yn syml, ni fyddai hyn wedi digwydd heb gefnogaeth a haelioni ein cymunedau lleol a’n staff. O werthu cacennau, dyddiau Troi'n Binc, eillio pen, rhediadau a theithiau cerdded noddedig, mae pawb sydd wedi chwarae rhan yn yr ymdrechion codi arian- waeth pa mor fawr neu fach- wedi cyfrannu at y cyfanswm gwych hwn. Bydd pob ceiniog o’r arian a godir yn mynd tuag at wella profiadau ein cleifion, ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cefnogi’r achos hynod bwysig hwn.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Uned newydd, ewch i wefan Turn it Pink.

Gallwch gyfrannu at yr Uned Gofal y Fron drwy ddefnyddio'r ddolen hon.

 

Isod: Argraff arlunydd o'r ganolfan newydd