Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn Ennill Gwobr GIG Cymru

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn dathlu heddiw (Dydd Gwener 21 Hydref) ar ôl ennill gwobr yn Wobrau GIG Cymru 2022.

Enillodd y ‘ Gwasanaeth Dychwelyd Pwrpasol’, prosiect a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai United Welsh y wobr Gweithio’n ddi-dor ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

Cafodd y wobr ei chyflwyno i'r tîm y tu ôl i'r prosiect mewn seremoni a fynychwyd gan dros 280 o staff GIG Cymru yng Nghaerdydd neithiwr.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Mae’n wych gweld Gwobrau GIG Cymru yn ôl ar gyfer 2022. Maent yn destun balchder mawr i holl staff y GIG sy'n cysegru eu bywydau i anghenion a gofal eraill.

“Mae’r straeon ysbrydoledig am ymroddiad, dyletswydd ac arloesedd yn y modd yr ydym yn gofalu am fywydau eraill ac yn eu gwella mewn cyfnod mor heriol yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom. Mae’n taflu goleuni ar y staff gwych ac ymroddedig sydd gennym yn gweithio i GIG Cymru.

“Rwy’n hynod falch o fod y gweinidog sy'n gyfrifol am GIG Cymru ac rwy’n llongyfarch pawb sydd wedi’u henwebu ac sy’n ennill gwobrau. Diolch ichi am eich gwasanaeth ac am fod yn esiampl gadarnhaol i’r GIG a phobl Cymru.”

Llongyfarchiadau mawr i'r holl dîm o'r Gwasanaeth Dychwelyd Pwrpasol ac i'n holl staff a gafodd eu henwebu a oedd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y digwyddiad mawreddog hwn.

Caiff Gwobrau GIG Cymru eu trefnu gan Gwelliant Cymru, sef y gwasanaeth gwella ar gyfer GIG Cymru a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dychwelodd y gwobrau eleni yn dilyn bwlch o ddwy flynedd oherwydd y pandemig COVID-19. Lansiwyd yn wreiddiol yn 2008 i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 60 oed, a chydnabod a hyrwyddo arfer da ledled Cymru. 

Noddwyd y gwobrau eleni gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, C-Stem ac Armis, Core to Cloud, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac RCN Wales.

Derbyniwyd ceisiadau gan amrywiaeth o sefydliadau, sy’n dangos y safon uchel o waith arloesol ac amrywiol sydd wedi trawsnewid profiad a chanlyniadau pobl Cymru.

I ddarllen mwy am yr enillwyr, ewch i www.nhswalesawards.wales.nhs.uk.