Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd yn falch o gefnogi Ail Flwyddyn y Prosiect 'Cludiant Iechyd'

Dydd Mercher 12 Hydref 2022

Mae'r prosiect Cludiant Iechyd a ariennir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB) wedi ail agor ar gyfer ceisiadau yn dilyn blwyddyn gyntaf lwyddiannus o fentrau. Mae arian o'r prosiect yn cynorthwyo sefydliadau cymunedol ar draws ardal Gwent fwyaf i gynorthwyo cleifion, ymwelwyr a staff i gyrraedd safleoedd gofal iechyd.  

Gall y gronfa ddarparu hyd at £10,000 i ymgeiswyr newydd sy'n dymuno datblygu gwasanaethau cludiant nid er elw newydd neu rai sydd eisoes yn bodoli i safleoedd iechyd. Mae cyfle hefyd am hyd at £7,500 o arian grant parhad i ymgeiswyr llwyddiannus y llynedd. 

Mae'r wyth o fentrau llwyddiannus Cludiant Iechyd hyd yn hyn wedi cynnwys tri o brosiectau cymorth sy'n cael eu cynnal gan sefydliadau cymunedol sy'n newydd sbon i gludiant, yn ogystal â phump sy'n cael eu rheoli gan weithredwyr presennol oedd eisiau gwella eu gwasanaeth. Roedd pedwar yn dilyn model cynllun car gwirfoddol, ble'r oedd gwirfoddolwyr yn gyrru eu cerbydau eu hunain ar gyfer teithiau, a bu i bedwar fabwysiadu cynllun deialu am reid gan ddefnyddio cerbydau'r sefydliad gyda gwirfoddolwyr neu yrwyr oedd yn cael eu talu y tu ôl i'r llyw. 

Roedd modd i Gludiant Iechyd gynorthwyo'r holl brosiectau hyn gyda grantiau ariannol yn ogystal â mentora gan Gydlynydd Cludiant Cymunedol Rhanbarthol, â chymorth ychwanegol gan Bartneriaid Prosiect oedd yn cymryd rhan, yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Gymdeithas Gludiant Gymunedol, tri Chyngor Gwirfoddol Sirol o'r rhanbarthau - GAVO (Gwent), TVA (Torfaen) a PAVO (Powys), a'r Byrddau Iechyd eu hunain. 

"Roedd gallu cynorthwyo wyth prosiect yn ein blwyddyn gyntaf yn werth chweil. Fodd bynnag, mae lleoliadau ac apwyntiadau Cludiant Iechyd yn ardal sylweddol o angen ac mae llawer o waith yn dal i'w wneud ar draws pob bwrdeistref" meddai Faye Mear, y Cydlynydd Cludiant Cymunedol Rhanbarthol.

"Gall cychwyn menter newydd fod yn frawychus iawn ac mae'n wych bod ein prosiect yn gallu cynnig gwybodaeth a mentora yn ogystal â chymorth ariannol. Mi alla i a'r Partneriaid Prosiect eraill gynnig arweiniad a chymorth i gynlluniau bob cam o'r ffordd." Ychwanegodd Faye 

Cydnabuwyd cymorth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i'r fenter yn genedlaethol wrth iddynt dderbyn gwobr Pencampwr Cludiant Cymunedol y Flwyddyn yn y Gwobrau Cludiant Cymunedol y llynedd.  

"Mae'r Bwrdd Iechyd yn cydnabod pwysigrwydd a gwerth cludiant cymunedol yn yr ardaloedd yr ydyn yn eu gwasanaethu. Rydym yn falch o allu darparu cyllid ar gyfer y prosiect Cludiant Iechyd am yr ail flwyddyn a bod yn bartner allweddol i sicrhau bod darparwyr cludiant yn cael yr adnoddau i allu cyflawni'r her bwysig hon." Steve Bonser, Pennaeth Newid Trawsnewidiol yn BIPAB. 

Cefnogir Cludiant ar Gyfer Iechyd gan y Gymdeithas Gludiant Gymunedol (CTA) ac mae'n cael ei annog gan Gynghorau Gwirfoddol Sirol.  

"Nid yw erioed wedi bod cyn bwysiced i ddiogelu a datblygu datrysiadau cludiant sy'n gweithio go iawn i'r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Rydym yn gwybod bod cludiant cymunedol yn darparu siawns o oroesi i bobl sy'n byw yn ardal y Bwrdd Iechyd, ac rydym yn gyffrous i allu parhau'n rhan o'r bartneriaeth i gynorthwyo ac ehangu'r dull hanfodol hwn o gludiant." Said Gemma Lelliott, Cyfarwyddwr Cymru, CTA. 

Mae TVA a Chynghorau Gwirfoddol Sirol eraill sy'n gweithio o fewn cymunedau yn rhanbarth Bwrs Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn annog ceisiadau i'r gronfa hon ac yn croesawu ymgeiswyr i ddefnyddio'r ffynonellau sydd ar gael gennym, megis cymorth datblygu prosiect a recriwtio gwirfoddolwyr." Dywedodd Pat Powell Cydlynydd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant gyda Chynghrair Gwirfoddol Torfaen 

"Roeddem yn falch iawn o gefnogi a hyrwyddo'r gwaith Cludiant Iechyd a gynhaliodd Age Connects Torfaen y llynedd ar ôl llwyddo i dderbyn arian grant i ddarparu Cludiant Ysbyty, Tacsi Brechu a gwasanaeth Gadael Ysbyty i rai dros 50 yn ardal Torfaen." Ychwanegodd. 

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am arian, cwblhewch y pecyn cais sydd ar gael ar wefan y Gymdeithas Gludiant Gymunedol- https://ctauk.org/aneurin-bevan-transport-to-health/