Ymunwch â ni i ddysgu am wir brofiadau a theimladau eich anwyliaid a sut allwch chi eu helpu ar eu taith ffrwythlondeb.
Bydd gweithwyr proffesiynol o’r maes iechyd ffrwythlondeb yn ymuno â ni i roi cymorth i chi ddeall rhagor ynghylch archwiliadau yn y maes ffrwythlondeb a chylch IVF nodweddiadol. Byddwn yn egluro sut allai eich anwyliaid fod yn teimlo’n gorfforol yn ystod triniaeth IVF, yn ogystal â rhoi dealltwriaeth i chi o’r broses o gasglu wyau a throsglwyddo’r embryo.
Byddwn yn siarad hefyd am effaith emosiynol ffrwythlondeb. Byddwn yn egluro sut mae emosiynau yn medru mynd ar chwâl a siarad ynghylch yr hyn na ddylid ei ddweud a’r dulliau gorau o gynnig cefnogaeth.
Gobeithiwn yn fawr y bydd y digwyddiad hwn yn helpu i gychwyn trafodaethau hanfodol gydag anwyliaid sy’n cael trafferth ymdopi gyda ffrwythlondeb, oherwydd gall siarad â phobl rydych yn ymddiried ynddynt yn ystod cyfnodau eithriadol o anodd fod o gymorth mawr.
Ar Ddydd Sadwrn, 7 Tachwedd am 10am ar Zoom.
I gofrestru, ebostiwch emma.rees@fertilitynetworkuk.org gan roi eich enw llawn a’ch lleoliad.