Wrth i wyliau'r ŵyl agosáu'n gyflym, dylid archebu unrhyw feddyginiaeth reolaidd cyn gynted â phosibl i sicrhau bod gennych ddigon i bara drwy gyfnod y Nadolig. Mae hefyd yn syniad da i sicrhau bod eich cwpwrdd meddygaeth wedi'i stocio'n llawn, a allai eich helpu i drin salwch ac anhwylderau cyffredin gartref.
Sylwch y bydd pob Meddygfa, Practis Optometreg a mwyafrif y Fferyllfeydd cymunedol ar gau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Gweler isod pa fferyllfeydd fydd ar agor dros y gwyliau banc.
Os oes gennych broblem ddeintyddol brys, cysylltwch â'r Llinell Gymorth Ddeintyddol y Tu Allan i Oriau ar 01633 744387.