Neidio i'r prif gynnwy

Cais llwyddiannus Arts in Health am gyllid parhaus tuag at brosiect Arts & Minds

Mae tîm o weithwyr iechyd proffesiynol ar draws y bwrdd iechyd wedi bod yn llwyddiannus gyda cais i Gyngor Celfyddydau Cymru am gyllid parhaus tuag at brosiect Celfydd a Chrebwyll.

Mae 1,000 o ddiwrnodau yn rhaglen o ymyriadau creadigol ar gyfer rhieni sy’n wynebu heriau iechyd meddwl cymedrol i ddifrifol neu sydd angen cymorth o fewn eu perthynas rhiant-baban, ochr yn ochr â’u babanod, yn ystod y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf. Maent yn cael eu hatgyfeirio gan Wasanaeth Amenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Rhieni-Babanod Gwent.

Gan weithio ar y cyd trwy gelfyddyd, mae artistiaid a chlinigwyr yn gallu cael effaith gadarnhaol trwy gerddoriaeth a symudiad i gefnogi adferiad iechyd meddwl a lles i rieni. Fel rhan o raglen Celfydd a Chrebwyll.

Dywedodd Sarah Goodey, Rheolwr Datblygu’r Celfyddydau: “Mae’n dyst i’r gwaith caled a’r arloesedd rhwng ymarferwyr creadigol a chlinigol i ddylunio gweithgaredd greadigol bwrpasol ar gyfer Rhieni sy’n cael eu cefnogi gan wasanaethau G-PIMHS, Amenedigol a Dechrau’n Deg. Bydd blwyddyn 3 yn gweld y prosiect yn parhau i gyflenwi fel ym mlynyddoedd 1 a 2. Bydd mwy o sesiynau i gyfranogwyr a bydd cysylltiadau dyfnach yn cael eu gwneud ar weithgareddau yn y gymuned gyda sefydliadau 3ydd sector.”

Roedd gan bob grŵp hyd at 8 rhiant (naill ai mamau neu dadau) gyda'u babanod. Cawsant eu harwain gan dîm o staff gan gynnwys artist arweiniol ac artist gwadd, seicolegydd cynorthwyol neu fyfyriwr mewn lleoliad a mentor cymheiriaid neu weithiwr cymorth i dadau.

Dywedodd y Prif Artist Deborah Aguirre Jones: “Gellir gweld creadigrwydd fel set o sgiliau ar gyfer gwneud gwrthrychau neu berfformiadau, fodd bynnag fe ddewison ni ganolbwyntio yn lle hynny ar brosesau a rhyngweithiadau. Cyflwynwyd cyfryngau a gweithgareddau penodol i ddechrau er mwyn i gyfranogwyr allu ymlacio i mewn i’w cyrff mewn gofod eang a diogel ochr yn ochr ag eraill.”

“Yng nghanol cythrwfl magu plant newydd, roedd y gofod anfeirniadol hwn yn caniatáu cysylltiad creadigol â’ch hunan a’ch gwerthoedd craidd. Roedd y cyfranogwyr yn ymddangos yn fwy abl i sylwi, caniatáu a chynrychioli teimladau a allai fod yn anodd neu’n llethol fel arall.”

Dywedodd y Seicolegydd Cynorthwyol Laura Bolton: “Roedd y gweithgareddau a’r cynnwys yn amrywio o grŵp i grŵp, ac o sesiwn i sesiwn, ond edefyn a oedd yn rhedeg trwyddynt i gyd oedd cyfleu profiadau trwy ddulliau creadigol.”

“Roedd y mwyafrif llethol o eiriau [a ddefnyddiwyd i ddisgrifio’r prosiect] yn galonogol, megis ‘cyfeillgar’, ‘ystyriol’ a ‘hwyl’ a hyd yn oed ‘ysbrydoledig’, ‘cefnogol’ a ‘chroesawgar’.”

Mae’r prosiect 1,000 o ddiwrnodau yn un o nifer o brosiectau ledled Cymru a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae'n brosiect cydweithredol sydd hefyd wedi'i ariannu gan Sefydliad Baring a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a disgwylir i’r prosiect barhau i’w drydedd flwyddyn gan fod cyllid pellach wedi'i sicrhau.

Rhagor o wybodaeth am brosiectau Cyngor y Celfyddydau yma : Cyngor Celfyddydau Cymru | Cyngor Celfyddydau Cymru

Darluniau dogfennol o sesiynau creadigol yng Nghasnewydd a Chwmbrân wedi eu gwneud gan yr artist Geraint Ross Evans