Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau Newydd Ynghylch Ymosodiadau ar Weithwyr Brys

Dydd Iau 1 Gorffennaf 2021

 

Mae canllawiau newydd i gynorthwyo llysoedd benderfynu sut i ddedfrydu’r rhai sy’n ymosod ar weithiwr brys yn dod yn weithredol heddiw, ddydd Iau, 1 Gorffennaf 2021.

Bydd canllawiau’r Cyngor Dedfrydu’n cynorthwyo’r llysoedd yng Nghymru a Lloegr i lunio asesiad cytbwys o ddifrifoldeb y drosedd a rhoi dedfryd gymesur. 

Dyma’r tro cyntaf y bydd gan farnwyr ac ynadon ganllawiau penodol ar gyfer dedfrydu troseddau ymosod ar weithwyr brys, sy’n adlewyrchu’r ddeddfwriaeth a gynyddodd y ddedfryd uchaf ar gyfer ymosodiad cyffredin pan yw’r dioddefwr yn weithiwr brys. 

Mae’r gwasanaethau brys yng Nghymru, lle mae ymosodiadau ar yr heddlu a chriwiau tân ac ambiwlans wedi cynyddu, wedi croesawu’r canllawiau newydd. 

Dywedodd Darren Hughes, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru: “Mae staff sy’n gweithio yn y GIG yn gwneud gwaith anodd, yn gweithio dan amgylchiadau heriol, ac maen nhw yno i helpu pobl. 

“Mae wynebu ymosodiad neu unrhyw ymddygiad annerbyniol arall yn gwbl annerbyniol. 
 

“Rydym ni’n croesawu’r canllawiau, a fydd yn adlewyrchu difrifoldeb y troseddau a’r effaith ar weithwyr brys, yn gorfforol ac yn emosiynol.” 
 

Dywedodd Dylan Parry, Swyddog Prosiect Trais ac Ymddygiad Treisgar Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Gall gweithred dreisgar sy’n cymryd eiliad gael effaith ddinistriol a thymor hir ar ein staff, felly mae arnom ni angen sicrhau, pan ymosodir ar weithiwr brys, y ceir cyfiawnder iddyn nhw. 

“Mae’r canllawiau newydd hyn yn ychwanegiad a groesewir ac maen nhw’n darparu eglurder a chysondeb wrth ddedfrydu troseddau o’r fath.” 


Cyflawnwyd mwy na 4,240 o ymosodiadau yn erbyn gweithwyr brys yng Nghymru yn y cyfnod Ebrill 2019 - Tachwedd 2020, sy'n cynrychioli cynnydd misol ar gyfartaledd o 202 yn 2019 i 222 yn 2020, neu 10%.

Yn 2018 cafodd y ddedfryd uchaf dan y Ddeddf Ymosodiad ar Weithwyr Brys (Troseddau) ei dyblu o chwe mis i 12 mis yn y carchar, ond yn fuan gallai troseddwyr wynebu hyd at ddwy flynedd yn y carchar dan ddeddfau newydd. 

Ym mis Mai lansiodd gwasanaethau gweithwyr brys yng Nghymru yr ymgyrch newydd Gyda Ni Nid, Yn Ein Herbyn yn gofyn i’r cyhoedd eu trin gyda pharch. 

Addunedwch eich cefnogaeth ac ymunwch yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnodau #GydaNiNidYnEinHerbyn neu #WithUsNotAgainstUs.