Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau Ymweld wedi'u diweddaru, o Ddydd Llun 20fed o Orffennaf 2020 ymlaen


Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau diwygiedig ar gyfer ymweliadau ag Ysbytai yng Nghymru.


Er ein bod yn newid rhai o'r cyfyngiadau sy'n ymwneud ag ymweld, rhaid sicrhau bod rheolau llym ar waith o hyd i ddiogelu staff, cleifion ac ymwelwyr.


Rhaid inni barhau i gyfyngu ar nifer yr ymwelwyr mewn lleoliadau gofal iechyd er mwyn sicrhau ein bod yn cadw at ganllawiau Ymbellhau Cymdeithasol.


Bydd Ymweld yn cael ei ganiatau yn ôl disgresiwn y Nyrs sy'n gyfrifol am y Ward neu'r Adran.


Bydd caniatâd i ymweld yn cael ei roi ar sail buddiannau gorau'r claf a/neu les yr ymwelydd.


Yn anffodus, nid yw'r newidiadau hyn yn golygu ein bod yn dychwelyd at 'Fusnes Fel Arfer' o ran ymweld.


Sylweddolwn yr effaith gadarnhaol y gall ymweld ei chael ar gleifion a'u teuluoedd, ond bydd ymweld yn parhau i fod yn gyfyngedig i sicrhau ein bod yn cadw ein cleifion, ein staff a'n hymwelwyr mor ddiogel â phosibl yn ystod y cyfnod heriol hwn.


Gellir trefnu ymweliad, gyda chytundeb y prif Nyrsys Ward/ Nyrs â gofal, cyn belled â;

-Nid oes gan ymwelwyr unrhyw symptomau o COVID-19,

- neu maent yn gwella o COVID-19 ac nid ydynt wedi cael eu hamlygu'n fwriadol i rywun â COVID-19 yn y 14 diwrnod diwethaf.


Fel arfer, caniateir un ymwelydd i bob claf, gyda rhai eithriadau, megis Gofal Diwedd Oes.


Mae'r canllawiau hefyd yn amlinellu newidiadau i Wasanaethau Mamolaeth. Erbyn hyn, gall y partner neu'r aelod enwebedig arall fynd gyda'r menywod pan fyddant yn mynd i'r ysbyty am y rhesymau canlynol:
• Sgan dyddio beichiogrwydd 12-wythnos
• Clinig beichiogrwydd cynnar
• Sgan anomaledd
• Presenoldeb yn adran meddygaeth y ffetws


I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r linc isod:
https://llyw.cymru/ymweld-ag-ysbytai-yn-ystod-y-coronafeirws-canllawiau-yn-effeithiol-o-20-gorffennaf-2020