Rydyn ni mor falch o'n Tîm Brechu am eu holl waith caled, wrth i ni agor un arall o'n Canolfannau Brechu Torfol, y tro hwn yn Nhrecelyn, ar Ddydd Sadwrn diwethaf.
Neithiwr, daeth cleifion a staff ynghyd yn y ganolfan i glapio am yr arwr Syr Capten Tom Moore, a’i goffáu am yr holl waith gwych y mae wedi’i wneud i gefnogi ac amddiffyn ein GIG.
Roedd y deyrnged hon yn atgof arall o pam mae ymdrechion ein holl staff mor rhan annatod o'r frwydr yn erbyn Coronafeirws.
Diolch i Huw Fairclough am gipio'r lluniau hyfryd hyn yn ein Canolfan Brechu Trecelyn.