Rydym yn profi nifer fawr o alwadau yn y Ganolfan Drefnu Apwyntiadau Brechu Torfol ac yn gofyn i unrhyw un sy'n galw i ganslo neu aildrefnu eu hapwyntiad ddewis opsiwn 1 i adael neges.
Wrth adael neges, nodwch eich enw, eich dyddiad geni a dyddiad eich apwyntiad fel y gallwn gynnig yr apwyntiad i rywun arall.
Os yw'ch galwad yn ymwneud â rhywbeth arall, gallwch barhau i adael neges yn nodi'ch enw, eich dyddiad geni a neges fer. Bydd y tîm yn trefnu galwad yn ôl cyn gynted â phosibl.
Diolch am eich amynedd.