Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan 'Gyrru Heibio' dros dro yn agor ym Mwrdeistref Sir Gaerffili

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi agor Ganolfan Brofi newydd dros dro yn swyddfeydd y Cyngor yn Nhŷ Penallta yn Ystrad Mynach o Ddydd Mawrth 8fed o Fedi.

Mae'r Ganolfan 'Gyrru Heibio' wedi'i hagor mewn ymateb i gyfradd uwch o achosion Coronafeirws yng Nghaerffili, ac oherwydd galw sylweddol am brofion yn y cyfleuster dros dro y tu allan i Ganolfan Hamdden Caerffili, a fydd yn aros ar agor am wythnos arall.

Yn y Ganolfan 'Gyrru Heibio' gallwch gyrru i fyny a chael prawf trwy ffenest eich car. Mae mesurau diogelwch llym ar waith i amddiffyn aelodau staff a phobl sy'n dod am brawf.

Os oes gennych symptomau Coronafeirws, waeth pa mor ysgafn, mynychwch am brawf cyflym, diogel.

Bydd y Ganolfan yn swyddfeydd Cyngor Tŷ Penallta, Parc Busnes Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7PG. Bydd yn weithredol o Ddydd Mawrth 8fed tan Ddydd Mawrth 15fed o Fedi. Yr oriau agor fydd 09: 00- 18:00.

Mae'r Ganolfan Brofi gyrru ychwanegol yn cael ei hagor i'w gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael prawf os ydyn nhw'n dangos symptomau Coronafeirws, waeth pa mor ysgafn. Rhaid i chi gyrraedd mewn car neu fan fach. Mae'r ganolfan brawf ar gyfer preswylwyr Bwrdeistref Sirol Caerffili yn unig ac mae gwiriadau adnabod ar waith.

Os ydych chi'n ansicr ynghylch y symptomau, defnyddiwch wiriwr symptomau ar-lein GIG Cymru, neu ffoniwch 111 i gael help a chyngor.

Ar gyfer pobl sy'n byw y tu allan i ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae cyfleusterau profi eraill ar gael yng Ngwent- yn Rodney Parade yng Nghasnewydd, a Cwm ym Mlaenau Gwent. Gallwch hefyd gael prawf wedi'i bostio i'ch cartref. Gwnewch gais ar-lein yn llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu ffoniwch 119.

Dywedodd Mererid Bowley, Cyfarwyddwr Dros Dro Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Mae'r cyfleuster gyrru drwodd newydd hwn yn caniatáu inni gynyddu capasiti a phrofi mwy o bobl â symptomau Coronafeirws.

Bydd y Ganolfan Brofi dros dro hon yn ein helpu i ddysgu mwy am gyfradd yr haint yng Nghaerffili, a bydd yn ein helpu i amddiffyn trigolion Bwrdeistref Sir Caerffili.

Byddwn yn annog pobl sy'n byw yn ardal Caerffili, os oes gennych symptomau peswch, colli blas neu arogl, twymyn neu hyd yn oed ychydig yn sâl, dewch i gael prawf am ddim."