Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan profi Coronafeirws dros dro yn agor yng Nghaerffili

Oherwydd cynnydd diweddar yn nifer yr achosion o Coronafeirws yn ardal Tref Caerffili, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn sefydlu canolfan brofi 'Cerdded i Mewn' y tu allan i Ganolfan Hamdden Caerffili o Ddydd Sadwrn 5/9/2020 - Dydd Mawrth 8/9/2020.

Mae'r ganolfan dros dro yn gyfleuster profi cerdded i fyny, sy'n golygu na fydd ar gael fel opsiwn ar-lein os ceisiwch archebu prawf ar-lein.

Os ydych chi'n byw yn ardal tref Caerffili, ac yn profi symptomau Coronafeirws, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo symptomau gwan- dylir mynychu am brawf cyflym, diogel. Mae'n bwysig eich bod chi'n mynychu dim ond os oes gennych chi symptomau- cofiwch, gall y symptomau hyn fod yn wan iawn.

Mae'r ganolfan ar agor rhwng 8AM-4PM Dydd Sadwrn a Ddydd Sul, ac o 8AM-6PM Dydd Llun a Ddydd Mawrth. Os ydych chi'n mynychu am rawf, peidiwch â theithio gyda rhywun arall i'r ganolfan brofi, a chofiwch arsylwi Pellter Cymdeithasol wrth aros am brawf.

Dywedodd Mererid Bowley, Cyfarwyddwr Dros Dro Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan,

“Bydd y ganolfan brofi dros dro hon yn ein helpu i ddysgu mwy am gyfradd yr haint yng Nghaerffili, a bydd yn ein helpu i amddiffyn trigolion Caerffili a Gwent.

Byddwn yn annog y rhai sy'n byw gerllaw, os oes gennych symptomau peswch, colli blas neu arogl, twymyn, neu yn teimlo hyd yn oed ychydig yn sâl, dewch i gael prawf am ddim.

Mae gennym weithdrefnau manwl ar waith sy'n amddiffyn ein staff a chi. Gwneir y prawf yn gyflym a gallwch fod 'i mewn ac allan' o'r ganolfan brofi mewn 5 munud.

Bydd cael prawf os oes gennych symptomau yn helpu i gadw'r bobl o'ch cwmpas yn ddiogel ac yn helpu i gadw Caerffili yn ddiogel."

Mae'r ganolfan brofi y tu allan i Ganolfan Hamdden Caerffili (CF83 3SW) ac mae ar agor 8:00 AM- 4:00 PM Dydd Sadwrn a Ddydd Sul ac 8:00 AM-6:00 PM Ddydd Llun a Dydd Mawrth.

Mae'r cyfleuster profi wedi'i fwriadu ar gyfer pobl sy'n byw yn nhref Caerffili ac yn agos ati. Mae cyfleusterau profi eraill yn Gwent- yn Rodney Parade yng Nghasnewydd a Chwm ym Mlaenau Gwent. Gallwch hefyd gael prawf wedi'i bostio i'ch cartref. Gwnewch gais ar-lein yn llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu ffoniwch 119.

Gofynnodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Judith Paget, i bobl leol gofio dilyn cyngor Coronafeirws gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Meddai,

“Rydyn ni am wneud apêl i chi. Gallwch ein helpu i leihau lledaeniad y firws. Dylir cynnal Pellter Cymdeithasol, golchi eich dwylo yn aml, gwisgo orchudd wyneb pan mae'n anodd cynnal Pellter Cymdeithasol, cael prawf os oes gennych symptomau, a hunan-ynysu os bydd Olrheiniwr Cyswllt yn gofyn i chi wneud hynny.

Hyd yn oed os ydych chi'n meddwl na fydd Coronafeirws yn effeithio'n wael arnoch chi, cofiwch, mae'n hawdd iawn ei basio ymlaen a gall fod yn ddifrifol iawn. Mae hyn yn hynod o wir yn achos aelodau teulu hŷn neu fwy agored i niwed, ffrindiau neu gydweithwyr a allai arwain at ganlyniadau difrifol, hyd yn oed angheuol.

Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth Ddiogelu Cymru. Os gwelwch yn dda, cewch brawf cyn gynted â phosib os oes gennych symptomau." #DiogeluCymru