Mae’r hysbysiad canlynol wedi’i dderbyn gan y Bwrdd Iechyd i’ch hysbysu am gau’r A465 rhwng Brynmawr a Glanbaiden dros nos o ddydd Llun 7 Chwefror 20:30 - 06:00 i’r ddau gyfeiriad.
Mae angen y saith cau hyn dros nos yn bennaf er mwyn ein galluogi i gwblhau gwaith ychwanegol i'r ffens diogelwch ar bont Jack Williams na ellir ei gwblhau'n ddiogel tra bod y ffordd islaw ar agor. Bydd y ffordd dros bont Jack Williams yn parhau ar agor, ond fe fydd yn cael ei rheoli gan oleuadau traffig dros dro, gyda disgwyl peth oedi.
Byddwn hefyd yn defnyddio'r cau i osod arwyddion ychwanegol ac amrywiol waith adfer ad hoc ar hyd y llwybr.
Os bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn gynt na'r disgwyl efallai na fydd angen cau'r 7 noson llawn arnom. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cynnydd ac os gallwn ganslo unrhyw rai o'r cau.
Bydd y dargyfeiriad swyddogol yn ei le a bydd arwyddion (fel isod).
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.
Component has been removed through translation. Check with originating site of what this should be.