Mae claf o Went, oedd yn ddifrifol wael, wedi diolch i staff yr ysbyty a achubodd ei bywyd ar ôl i'w chalon stopio sawl gwaith.
Derbyniwyd Tina Cashell, o Went, i Ysbyty Athrofaol y Faenor gydag anawsterau anadlu difrifol yn Haf 2022. Ar ôl ymchwiliadau brys, cafodd Tina ddiagnosis o ffibriliad atrïaidd a stopiodd ei chalon fwy nag unwaith, gan ei gadael yn ddifrifol wael.
Diolch byth, yn dilyn triniaeth achub bywyd ac amser yn yr Uned Gofal Dwys, llwyddodd Tina i ddychwelyd adref ar ôl treulio 6 wythnos fel claf preswyl yn Ysbyty Athrofaol y Faenor.
Flwyddyn ar ôl gadael yr ysbyty, mae Tina a’i gŵr, Richard, wedi cael amser i fyfyrio ar eu profiad.
Dywedodd Tina: “Roedd yn gyfnod hynod bryderus i mi a fy nheulu. Fe wnaethon nhw achub fy mywyd yn yr Uned Gofal Dwys. Hoffwn ddiolch eto i'r staff am bopeth maen nhw wedi'i wneud i mi.
“Roedd fy holl brofiad yn y Faenor yn wych ac roedd y staff yn anhygoel, pob un ohonyn nhw! Roedd y bwyd yn ardderchog ac roedd y staff i gyd yn hyfryd i mi, o lanhawyr i ymgynghorwyr, allwn i ddim eu beio nhw!”
Gwnaeth y gofal arbenigol a gafodd ei wraig argraff fawr ar ei ŵr, Richard, hefyd.
Dywedodd: “Roeddwn yn mynd â chacennau a bisgedi gyda fy merch, fel ein ffordd ni o ddweud diolch. Gwyddom eu bod nhw i gyd dan bwysau aruthrol."
Esboniodd Richard hefyd fod y gofal tosturiol a gawsant y tu hwnt i'r disgwyl, wrth i staff y ward drefnu parti te er mwyn i'r cwpl ddathlu eu pen-blwydd priodas yn 50 oed gyda'u teulu.
Dywedodd Richard: “Roedd Tina yn dweud o hyd bod angen iddi fod adref i ddathlu ein pen-blwydd priodas, felly trefnodd ein hymgynghorydd y parti.”
Dywedodd Tina: “Fe wnaethon nhw adael i ni gael ystafell a gwnaethon nhw barti te bach gyda’r teulu. Helpodd y nyrsys i osod y baneri.”
Mae Tina bellach yn gwella’n dda gartref, gan ddweud “Rwyf wedi bod adref ers 12 mis bellach ac rwy’n teimlo cymaint yn well.”