Neidio i'r prif gynnwy

Agor Clinig Iechyd Rhywiol Newydd yn Ysbyty Brenhinol Gwent er Cof am Gyn-aelod Hoff o Staff

Dydd Gwener 26 Mai 2023

Mae’r Tîm Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlu wedi cymryd camau breision dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn paratoi gwasanaethau iechyd rhywiol ar gyfer y dyfodol er budd ein cymunedau, yn enwedig pobl ifanc, gydag ymgyrch ail-ddylunio Cyfathrebu ac Ymgysylltu diweddar, sydd wedi ennill gwobrau.

I ddathlu’r garreg filltir nesaf, croesawodd y Bwrdd Iechyd agoriad Clinig Iechyd Rhywiol newydd ar Dydd Iau 25ain o Fai 2023 - clinig sy’n anrhydeddu unigolyn mawr ei pharch mewn ffordd arbennig.

Roedd Julia Frances Maynard, cyn-aelod o Dîm Iechyd Rhywiol y Bwrdd Iechyd, yn ysbrydoliaeth yn ei bywyd proffesiynol a'i bywyd personol. Yn anffodus, collodd Julia ei brwydr gyda chanser metastatig yr ofari. Nododd sawl un o’i chydweithwyr ei bod yn frwd dros y Gwasanaeth Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlu: yn gweithio fel arweinydd clinig, roedd hi bob amser yn ymdrechu i gynnig y gofal gorau i bawb a oedd yn mynychu Canolfan Cordell. Roedd Julia yn arwain drwy esiampl, wrth ei bodd yn gweld cleifion wyneb yn wyneb yn y clinig, a bob amser yn rhoi 100%. Roedd ei hagwedd at waith, ynghyd â'r parch roedd hi’n ei ddangos i’w chydweithwyr, yn galonogol, ac roedd hi bob amser yn denu’r ochr orau allan o bawb a oedd yn gweithio gyda hi. 

 

Agorwyd y Clinig yn swyddogol gan Brif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, Nicola Prygodzicz ynghyd â theulu Julia ar Ddydd Iau 25ain o Fai 2023.

Dywedodd Dr Jane Dickson, Cyfarwyddwr Clinigol Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlu:

"Rwyf ar ben fy nigon ein bod wedi gallu agor ein huned iechyd rhywiol newydd sbon, sydd wedi’i henwi ar ôl Julia Frances Maynard. Roedd Julia yn brif nyrs arbennig yn ein clinig blaenorol, Canolfan Cordell, ond yn anffodus, bu farw o achos canser metastatig yn 2018.

"Mae ein clinig newydd, wedi'i leoli ar Ward B6 Gorllewin Ysbyty Brenhinol Gwent, yn lle bywiog a chyfoes, wedi’i gynllunio gyda chynhwysiant a hygyrchedd llawn mewn cof. Y clinig yw pen llanw ein model gwasanaeth newydd, yn cynnig hwb iechyd rhywiol ym mhob bwrdeistref yn ardal ein bwrdd iechyd, gyda B6 Gorllewin yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer ein gwasanaethau mwyaf arbenigol. Gobeithiwn y bydd pawb sy’n dod drwy ddrysau ein canolfan newydd yn cael croeso cynnes, yn cael eu trin ag urddas, heb stigma."

Mae’r Ganolfan Julia Frances ar gyfer Iechyd Rhywiol newydd wedi'i lleoli ar B6 Gorllewin yn Ysbyty Brenhinol Gwent.