Beth yw Bronchiolitis?
Mae bronciolitis yn haint anadlol cyffredin, yn enwedig ymysg plant ifanc, a’r hyn sy’n ei nodweddu yw llid a rhwystrau yn llwybrau anadlu bach (broncioles) yr ysgyfaint. Mae'r cyflwr hwn yn cael ei achosi'n bennaf gan heintiau feirysol megis RSV, annwyd cyffredin a ffliw.
Bydd nifer helaeth o bobl yn gwella o bronciolitis heb unrhyw drafferth, ond gall babanod, plant bach, y rhai sydd â systemau imiwnedd gwan oherwydd cyflyrau iechyd hirdymor a'r henoed ddioddef gwichian wrth anadlu neu ei chael hi’n anodd anadlu a gall hyn arwain at fod angen triniaeth yn yr ysbyty.
Stori Mam
Mae Carolyn, mam o Gasnewydd yn sôn am ei phrofiad pan gafodd ei mab dwyflwydd oed, William, ei gadw yn yr ysbyty gyda bronciolitis y llynedd.
“Roedd wedi bod yn dioddef o beswch ac annwyd arferol yr oeddem yn ei drin gartref ac ar y cyfan roedd yn ymddangos yn iawn ynddo’i hun. Y diwrnod cyn iddo fynd i'r ysbyty, doedd William ddim eisiau bwyta ac nid oedd yn ymddangos yn 100%, cafodd gwsg aflonydd iawn y noson honno ac o tua 2am ymlaen roedd yn ymddangos yn anhapus iawn ac roedd yn crio, a oedd yn anarferol iddo.
“Es i ag ef at y meddyg y bore wedyn a dywedodd ei fod yn cael trafferth anadlu ac fe’m cyfeiriodd yn syth i’r Faenor. Roedd y meddyg teulu yn anhygoel, fe ffoniodd hi'r Faenor i roi gwybod iddynt ein bod ar ein ffordd ac fe ffoniodd fi yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw hefyd i weld sut oedd e.
“Pan gyrhaeddon ni’r Faenor, cawsom ein tywys i mewn ar unwaith, a chafodd driniaeth yno ar unwaith. Cafodd 2/3 nebiwlydd cyn i'w anadl ddod yn llai llafurus.
“Cawsom ein derbyn dros nos, ac roedd yn cael anadlydd bob awr i ddechrau. Cawsom ein rhyddhau yn hwyr y prynhawn drannoeth pan oedd yn gallu ymdopi â chael yr anadlydd bob 4 awr.
“Cefais fy synnu pa mor gyflym y dirywiodd a doeddwn i ddim yn disgwyl iddo orfod aros yn yr ysbyty yn 2 flwydd oed chwaith, roeddwn i’n cymryd yn ganiataol pe byddai’n cael cymhlethdodau gyda’i anadlu y byddai hynny wedi digwydd iddo pan oedd yn fabi.
“Roeddwn i’n awyddus iawn i William gael ei frechlyn ffliw eleni er mwyn rhoi ychydig mwy o amddiffyniad iddo, gobeithio, felly gobeithio na fydd yn rhaid i ni fynd trwy hyn eto.
“Hefyd, mae brechlyn RSV ar gael i fenywod beichiog erbyn hyn, sy’n newyddion anhygoel, fe fyddwn yn bendant wedi cymryd hwn pan oeddwn i’n feichiog er mwyn helpu i amddiffyn William, mae meddwl y gallai ein profiad ni gael ei osgoi erbyn hyn yn anhygoel”.
Dysgwch fwy am y brechlyn RSV
Ydych chi'n feichiog ers 28 wythnos neu fwy? Mynnwch eich brechlyn RSV trwy siarad â'ch bydwraig a threfnwch apwyntiad. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: Brechiad RSV i ferched beichiog - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (gig.cymru)
Gwyliwch ein podlediad diweddaraf i ddarganfod sut y gallwch chi helpu i leddfu pwysau ar ein gwasanaethau a chefnogi ein GIG y gaeaf hwn: https://shows.acast.com/66460edfb9914900120e37cd/6728a08e5e15233c406556d5