Neidio i'r prif gynnwy

Dydd Gwener 22 Tachwedd 2024 

Diolch yn fawr i’n côr talentog sydd wedi’u hysbrydoli gan John Lewis!

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gyfrannu ar gynhyrchiad ein fideo TikTok ar gyfer ymgyrch Hysbyseb Nadolig John Lewis 2024 “My Sonnet”.

Eleni, mae John Lewis wedi gwahodd y cyhoedd i recordio eu fersiwn eu hunain o Sonnet by The Verve, ymddangosodd y gân yn eu Hysbyseb Nadolig 2024, “The Gifting Hour”. Bydd un cystadleuydd yn cael y cyfle i ymddangos yn yr hysbyseb ar ddiwrnod Nadolig. Yr wythnos ddiwethaf, galwom ar staff o bob rhan o’r Bwrdd Iechyd, a oedd yn angerddol am ganu, i ymuno â ni ar gyfer y prosiect cyffrous hwn.

Ddydd Llun daeth lleisiau o bob rhan o’r Bwrdd Iechyd ynghyd ym mhrif Fwyty Ysbyty Brenhinol Gwent yn ystod eu hawr ginio, i greu côr John Lewis. Gan ddefnyddio’r ffilter sydd wedi’i wneud ar gyfer John Lewis ar Tik Tok, recordiodd ein tîm Cyfathrebu fersiwn y grŵp o Sonnet. Cafodd y perfformiad gymeradwyaeth enfawr gan y rheiny oedd yn gwylio yn y bwyty, a chreodd hyn foment hyfryd a oedd yn cyfleu ysbryd y Nadolig.

Ydych chi eisiau gweld yr hud yn datblygu? Ewch i gyfrif Tik Tok y Bwrdd Iechyd (@bipaneurinbevan) i wylio’r fideo. Tra byddwch yno, peidiwch ag anghofio ein dilyn!

Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran yn y gwaith o wneud y prosiect arbennig hwn yn realiti. Gyda’n gilydd rydym wedi dangos, nid yn unig dalent ein Bwrdd Iechyd, ond yr ymdeimlad o gymuned anhygoel sy’n diffinio BIPAB. Dewch i ni gadw ysbryd y Nadolig yn fyw – croesi bysedd ar gyfer Diwrnod y Nadolig!