Neidio i'r prif gynnwy

Creu Cysylltiadau a Meithrin Perthynas ar draws Casnewydd

Yn dilyn cymeradwyo achos busnes gan y Pwyllgor Gwaith, bydd Tîm Ardal Casnewydd yn adleoli i Dŷ Derwen, Heol yr Eglwys yng Nghasnewydd yn haf 2023.

Bydd y symud yn rhoi cyfle cyffrous i ni greu man gweithio a rennir ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer yr holl bartneriaid sy'n darparu gwasanaethau ledled Casnewydd.

Bydd yn hwyluso cydweithio ac yn galluogi cyflawni blaenoriaethau Bwrdd Partneriaeth Gwasanaeth Integredig Casnewydd (ISPB) a’r Cynllun Tymor Canolig Integredig lleol ac yn cynnig cyfleusterau cyfarfod, hyfforddiant a desgiau poeth i’n partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn yn fuan.