Neidio i'r prif gynnwy

Cwrs GIG Ar-lein Am Ddim 'Bywyd ACTif' Ar Gael i Wella Lles Meddyliol

Dydd Mercher 21 Gorffennaf 2021

Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i Gwelliant Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru) greu cwrs fideo hunangymorth rhad ac am ddim ar-lein i bawb yng Nghymru dros 16 mlwydd oed. Mae’r cwrs Bywyd ACTif wedi helpu pobl i gymryd mwy o reolaeth fel bod bywyd o ddydd i ddydd yn llai o straen ac yn fwy o hwyl.

Dyluniwyd y cwrs fideo pedair rhan gan yr Athro Neil Frude i rannu ffyrdd ymarferol ac effeithiol o ddelio â meddyliau a theimladau a allai fod yn achosi trallod.  Dywedodd ei fod wedi derbyn llawer iawn o adborth cadarnhaol ers y lansiad flwyddyn yn ôl, “Mae wedi bod yn ffantastig ein bod wedi gallu creu’r cwrs hwn ar ffurf cyfres fer o fideos ar-lein fel y gall rhagor o bobl gael mynediad ato i ddysgu sut i deimlo’n fwy hapus ac o dan lai o straen.  Maent wedi bod yn boblogaidd iawn a bu llawer o sylwadau cadarnhaol, sy’n helpu i ddangos bod galw am y math hwn o gymorth.”

Mae enghreifftiau o adborth ar gyfer y cwrs fideo ar-lein yn cynnwys:

“Galla i ddweud â’m llaw ar fy nghalon bod y cwrs Bywyd ACTif wedi newid fy mywyd. Rydw i’n berson gwahanol ac, erbyn hyn, rydw i’n gallu ymdopi ag unrhyw ofid neu unrhyw beth na alla i ei reoli yn llawer gwell. Diolch o galon.”

“Dydw i ddim yn cynhyrfu gymaint nawr ac rydw i’n ymateb yn llai emosiynol i bethau. Rydw i’n gallu ymdopi â nifer o bethau y mae bywyd prysur yn eu taflu atom – rydw i’n gwneud un peth ar y tro, gan flaenoriaethu mewn ffordd resymegol yn seiliedig ar fy ngwerthoedd neu ar yr hyn sy’n bwysig. Mae hyn yn gwneud i mi deimlo’n llawer mwy bodlon ar fy mywyd, hyd yn oed pan fo adegau anodd."

Gall unrhyw un gael mynediad at y cwrs yn rhad ac am ddim ar unrhyw adeg drwy ymweld â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rhannwch hyn gyda'ch ffrindiau, cydweithwyr, teulu a chysylltiadau perthnasol.