Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Gwent yn annog pobl i frechu eu plant yn erbyn y frech goch.

Dydd Llun 14 Awst 2023

Yn dilyn cynnydd yn y nifer o bobl sy’n dioddef o’r frech goch yn Llundain, a ledled Lloegr, Hoffai’r Athro Tracy Dasziewicz, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Gwent, atgoffa rhieni a gwarchodwyr ar draws cymunedau Gwent o bwysigrwydd brechu plant yn erbyn yr haint hynod ddifrifol ac ymledol hwn.

Dywedodd yr Athro Daszkiewicz “Mae’r frech goch yn haint ddifrifol a all wneud plant yn sâl iawn, gan arwain at gymhlethdodau pellach yn y dyfodol, ac o bosib, arwain at driniaeth ysbyty. Mae posib atal hyn drwy’r brechlyn MMR (Y Frech Goch, Clwy’r Pennau, a Rwbela). Galwn ar rieni a gwarchodwyr oll i sicrhau bod eu plant wedi derbyn eu dwy ddos o’r brechlyn MMR. Nid yw hi fyth yn rhy hwyr i ddal i fyny. Cewch y brechlyn MMR am ddim gan y GIG waeth bynnag eich oed.

Mae dwy ddos ar gyfer brechlyn MMR. Mae’r gyntaf ar gael i blant sy’n 1 oed, a’r ail wedi iddynt gyrraedd 3 blwydd a 4 mis oed. Hoffwn bwysleisio hefyd, os ydych chi, neu eich plentyn, wedi methu unrhyw un o’r ddwy ddos, nad yw’n rhy hwyr i chi eu derbyn am ddim.”

Er bod plant yn cael cynnig y brechlyn fel rhan o’r gwasanaeth arferol, gall oedolion sydd heb eu brechu hefyd fod mewn perygl o ddal y frech goch.

Meddai'r Athro Daszkiewicz “Byddwn yn gwahodd unrhyw blant ac oedolion sydd heb dderbyn eu brechlyn MMR i glinigau brechu ledled Gwent, yn dechrau ar ddydd Llun 21 Awst. Fodd bynnag, gall unrhyw un sydd heb dderbyn eu brechlyn MMR gysylltu â’n tîm Brechu i ofyn am apwyntiad drwy alw 0300 303 1373.

"Mae’r frech goch yn salwch hynod ddifrifol y gallwn ei atal drwy frechu. Anogaf unrhyw un sydd heb dderbyn brechlyn i wneud hynny, mae’n bwysig ar gyfer eich iechyd personol chi, ac er mwyn atal lledaeniad yr haint ar draws ein cymunedau”.  

Os ydych yn amau’r Frech Goch, gofynnwch am apwyntiad brys gyda’r meddyg teulu neu ffoniwch GIG 111.

I gael rhagor o wybodaeth am y Frech Goch, ewch i: 111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/m/article/measles/