Neidio i'r prif gynnwy

Cyfleuster 'POD' newydd wedi'i gyflwyno i leihau oedi ambiwlans

Mae cyfleuster newydd wedi'i osod y tu allan i Adran Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Gwent i gyflymu gofal cleifion sy'n cyrraedd mewn ambiwlans.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi gweithio gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gyflwyno'r cyfleuster trosglwyddo ambiwlans newydd - o'r enw POD (Adran Dadlywtho Cleifion).

Mae'r POD yn cynnwys chwe gwely ysbyty ar gyfer cleifion ambiwlans ar adegau pan fydd yr Adran Achosion Brys yn llawn.

Bydd y cyfleuster newydd yn helpu cleifion ambiwlans i gael eu trosglwyddo'n ddiogel i'r ysbyty, gan alluogi rhyddhau criwiau ambiwlans yn gyflymach i ateb galwadau 999 o bob rhan o Gwent.

Mae'r Bwrdd Iechyd eisoes wedi gofalu am y nifer uchaf o gleifion erioed yn ei Adrannau Brys y Gaeaf hwn ac yn aml mae criwiau ambiwlans wedi gorfod aros y tu allan i'r ysbyty gyda chleifion nes bod lle ar gael yn yr ysbyty.

Ym mis Rhagfyr, profodd Adrannau Brys y Bwrdd Iechyd eu mis prysuraf erioed - roedd nifer y cleifion a welwyd (14,533) 8% yn uwch nag yn y mis prysuraf blaenorol a gofnodwyd (Rhagfyr 2018).

Dywedodd Claire Birchall, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Rydym wedi gweithio gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gyflwyno'r 'Adran Dadlwytho Cleifion' newydd hon i hwyluso'r broses o drosglwyddo cleifion ambiwlans yn gyflym i'n Hadran Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Gwent. 

“Bydd y cyfleuster newydd hwn yn galluogi parafeddygon i ddadlwytho eu cleifion yn gyflymach a mynd yn ôl allan i ateb galwadau 999 yn y gymuned.

“Mae'r POD yn cynnwys chwe gwely mewn amgylchedd diogel a chyffyrddus, a fydd yn gwella'r gofal y gallwn ei roi i gleifion a allai fod wedi derbyn gofal fel arall yng nghefn ambiwlans ar adegau pan fydd yr Adran Achosion Brys yn llawn.”

Dywedodd Darren Panniers, Rheolwr Gweithrediadau Ardal ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Bydd yr Adran Dadlwytho Cleifion yn Ysbyty Brenhinol Gwent yn darparu ardal 'dadlwytho' ddiogel ac urddasol ar gyfer hyd at chwe chlaf a ddygir i'r ysbyty mewn ambiwlans os yw'r Adran Achosion Brys yn llawn, yn ogystal â chyfleusterau toiled i'r anabl, trolïau ysbyty, nwyon meddygol a monitro.

“Rydym yn cydnabod na fydd hyn, ar ei ben ei hun, yn datrys problem oedi wrth drosglwyddo, ond mae'n gam ymarferol o dan yr amgylchiadau i sicrhau y gellir rhyddhau ambiwlansys yn gyflymach, yn enwedig yn ystod cyfnod prysur y Gaeaf.”

Darganfyddwch fwy am y POD yn y fideo canlynol.