Cafodd bachgen bach ei eni ym maes parcio Ysbyty Athrofaol Y Faenor ddoe - diwrnod agoriadol yr ysbyty.
Gyrrodd Mam Chelsea Waite, 26 oed, a'i phartner Ieuan i'r ysbyty newydd o'u cartref yn y Coed Duon pan gynyddodd cyfangiadau Chelsea. Roedd y cyfan yn mynd fel y gynlluniwyd nes bod y cwpl ddau funud i ffwrdd o'r ysbyty.
Meddai Chelsea: “Roeddem ar fin parcio yn y prif faes parcio a cherdded i mewn gyda’n gilydd pan dorrodd fy nyfroedd yn sydyn a gallwn deimlo pen y babi. Erbyn i fy mhartner dynnu i fyny y tu allan i'r drysau ffrynt roeddwn i mewn hysterics."
Roedd Dr Chris Chick, Radiolegydd Ymgynghorol nad yw wedi helpu i eni babi ers 1995, yn pasio pan glywodd sgrechiadau Chelsea a rhuthro drosodd i helpu. Galwodd Dr Chick am gymorth a llwyddodd i esgor ar fabi Flynn yn ddiogel a'i gadw'n gynnes nes i fydwragedd a staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gyrraedd y lleoliad i gymryd drosodd.
“Ni allaf gredu pa mor gyflym y daeth Flynn,” meddai Chelsea, sydd hefyd yn fam i Freddie, 15 mis oed. “O fy nyfroedd yn torri iddo gael ei eni, roedd y broses gyfan oddeutu pum munud! Roeddem mewn sioc oherwydd roeddwn i mewn esgor am fwy nag 16 awr gyda fy mhlentyn cyntaf.
“Roeddwn i ar fy mhengliniau y tu allan i’r car a llwyddodd Dr Chick i ddal Flynn wrth iddo ddod allan. Roedd Dr Chick a'r staff eraill yn anhygoel- daethant i'm helpu mor gyflym.
“Mae'n rhywbeth i Flynn gael gwybod amdano pan fydd yn heneiddio- gallwn ni godi cywilydd arno pan fydd yn cael ei gariad cyntaf!”
Ar ôl mynd â mam a'i babi i'r Uned Mamolaeth y tu mewn i'r ysbyty newydd, roedd Flynn yn pwyso 7 lbs 12 ozs.
Meddai Chelsea: “Mae’r ysbyty’n hyfryd ac roeddwn yn falch iawn o fod mewn amgylchedd mor fodern a diogel. Roedd gennym ystafell ensuite preifat er mwyn i mi allu cael cawod ac roeddwn i'n teimlo'n well ar unwaith.
“Pan wnes i alw fy nheulu, roedden nhw'n meddwl fy mod i'n dweud wrthyn nhw fy mod i wrth esgor- ond fe gawson nhw sioc o weld Flynn eisoes yn fy mreichiau.
“Ar ôl yr holl ddrama y tu allan i’r ysbyty, roedd hi’n bwyllog ac yn hamddenol iawn ac roeddwn i adref erbyn 10.30pm yr un noson.
“Rydw i wedi gweld y pethau hyn yn digwydd ar y teledu, ond wnes i erioed feddwl y byddai'n digwydd i mi!”