Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyno Aneura...

Hoffem gyflwyno i chi... 'Aneura mewn Feisor', ein Cynghorydd Diogelwch Covid a fydd yn cyfleu negeseuon allweddol i'n haelodau staff a'r cyhoedd ynghylch dilyn canllawiau rheoli heintiau, gan gynnwys; gwisgo PPE, golchi dwylo a phellter cymdeithasol.

Efallai y byddwch yn gweld Aneura os ymwelwch ag un o'n hysbytai, gan y bydd posteri o'n Cynghorydd Diogelwch Covid ym mhob un o'n hysbytai.

Mae'r un mor bwysig i'n cleifion a'r cyhoedd ddilyn y rheolau hyn ag ydyw i'n staff ein helpu ni i #AtalYLledaeniad

Edrychwch ar y fideos canlynol sy'n dangos pwysigrwydd Ymbellhau Cymdeithasol a golchi dwylo, a'r mesurau y mae ein staff yn eu rhoi ar waith i amddiffyn eu hunain, ein cleifion, ein cydweithwyr a'r cyhoedd: