Bydd ystod o fesurau newydd yn dod i rym ar Ddydd Mawrth am 6pm i leihau nifer yr heintiau Coronafeirws newydd.
Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i bawb sy'n byw yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili:
- Dim ond ar gyfer teithio neu weithio hanfodol y bydd pobl yn gallu dod i mewn neu adael ardal Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili;
- Bydd gofyn i bawb dros 11 oed wisgo Gorchuddion Wyneb mewn ardaloedd dan do;
- Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn gallu cwrdd- ni chaniateir cyfarfodydd â phobl eraill y tu mewn ac aelwydydd estynedig. Ni chaniateir aros dros nôs.
Mae partneriaid o bob rhan o Gwent yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwybodaeth i breswylwyr cyn i fesurau ddod i rym am 6pm heno. Hoffem sicrhau preswylwyr y byddwn yn eich diweddaru cyn gynted ag y gallwn heddiw.
Am fwy o wybodaeth, ewch i Wefan Llywodraeth Cymru.