Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddiad JCVI Atgyfnerthu Covid-19

Dydd Mawrth 14 Medi 2021


Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw ac argymhellion y Cydbwyllgor ar Frechu a Imiwneiddio ynghylch brechu atgyfnerthu i bawb sydd ar hyn o bryd mewn grwpiau blaenoriaeth un i naw fel y nodwyd gan y JCVI, hoffem sicrhau ein preswylwyr y byddwn yn cysylltu â phawb sy'n gymwys i'w cynnig apwyntiad frechu ar ôl iddynt ddod yn gymwys. Gofynnwn i chi beidio â chysylltu â ni i ofyn am apwyntiad, ond gofynnwn ichi sicrhau bod eich manylion a gedwir gyda'ch Meddygfa Teulu yn gyfredol. Byddwn yn anelu at gysylltu â phob unigolyn o leiaf wythnos cyn eu hapwyntiad ac anfonir llythyrau i'ch cyfeiriad cartref cofrestredig a gedwir gyda'ch Meddyg Teulu.

Am wybodaeth bellach, ewch i wefan Llywodraeth y DU.