Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru: Cyfnod hunan-ynysu wedi'i leihau

Gweler y cyhoeddiad canlynol gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw yn cynghori y bydd pobl sy’n profi’n bositif am Covid-19 yn gallu gadael hunan-ynysu ar ôl pum diwrnod llawn os ydynt yn cael dau brawf llif ochrol negyddol.

 

Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru: Cyfnod hunan-ynysu wedi’i leihau

 

Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan heddiw y bydd pobl sy’n profi’n bositif am Covid-19 yn gallu gadael hunan-ynysu ar ôl pum diwrnod llawn os bydd ganddyn nhw ddau brawf llif ochrol negyddol,

Rhaid cymryd y ddau brawf llif ochrol negyddol yn olynol ar ddiwrnodau pump a chwech o'r cyfnod ynysu.

Mae’r newidiadau’n cael eu gwneud ar ôl archwiliad trylwyr o’r dystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn dod â Chymru i gyd-fynd â newidiadau a wnaed mewn mannau eraill yn y DU.

Byddant yn dod i rym o 28 Ionawr, ar yr un pryd ag y disgwylir i Gymru gwblhau'r symudiad i lefel rhybudd sero.

Bydd cyfnod hunan-ynysu byrrach yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a busnesau drwy leihau’r pwysau ar y gweithlu oherwydd absenoldebau staff sy’n gysylltiedig â Covid.

Cymorth ariannol drwy’r Cynllun Cymorth Hunan-Ynysu a fydd yn dychwelyd i’r gyfradd dalu wreiddiol o £500 i gydnabod y cyfnod ynysu byrrach. Bydd pobl sydd angen cymorth gyda hanfodion fel siopa a nwyddau fferyllol yn gallu cael cymorth drwy eu hawdurdod lleol a sefydliadau gwirfoddol.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Hunan-ynysu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal y firws hwn rhag lledaenu ac amharu ar ei drosglwyddo. Ond gall hunan-ynysu am gyfnodau hir gael effaith negyddol ar ein hiechyd meddwl a gall fod yn niweidiol i’n gwasanaethau cyhoeddus a’r economi ehangach.

“Ar ôl adolygu’r holl dystiolaeth sydd ar gael yn ofalus, credwn y bydd profion ar ddiwrnodau pump a chwech ynghyd â phum diwrnod llawn o ynysu yn cael yr un effaith amddiffynnol â chyfnod ynysu o 10 diwrnod.

“Ond mae’n bwysig iawn bod pawb yn hunan-ynysu ac yn defnyddio profion llif ochrol yn y ffordd a argymhellir i sicrhau eu bod yn amddiffyn eraill rhag y risg o haint.

“Mae’r ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn rhagorol yng Nghymru drwy gydol y pandemig ac rydym am ddiolch i bawb am weithio gyda ni i gadw Cymru’n ddiogel.

“Mae’r pigiad atgyfnerthu wedi lleihau’r tebygolrwydd o achosion difrifol o’r firws a mynd i’r ysbyty felly rwy’n annog unrhyw un sydd eto i gael eu brechlyn i fanteisio ar y cynnig.”

Os yw person yn hunan-ynysu fel achos positif ar hyn o bryd, neu'n profi'n bositif am Covid-19, rhaid iddo hunan-ynysu am bum diwrnod llawn a dylai gymryd prawf llif ochrol ar y pumed diwrnod a phrawf arall 24 awr yn ddiweddarach ar y chweched diwrnod.

Os yw'r ddau ganlyniad yn negyddol, mae'n debygol nad ydynt yn heintus a gallant roi'r gorau i ynysu.

Ond rhaid i unrhyw un sy'n profi'n bositif naill ai diwrnod pump neu ddiwrnod chwech barhau i hunan-ynysu nes bod dau brawf negyddol yn cael eu cymryd 24 awr ar wahân neu tan ddiwrnod 10, pa un bynnag sy'n dod gyntaf.

Mae'r newid hwn yn adlewyrchu'r dystiolaeth ddiweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd canllawiau ar hunan-ynysu i’r rhai sy’n gweithio mewn meysydd mwy sensitif fel iechyd a gofal yn cael eu cyhoeddi’n fuan.