Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddiad pwysig ynglŷn â Chanolfan Feddygol Brynmawr

Yn anffodus, yn dilyn cyngor Peiriannydd Strwythurol, bydd Canolfan Feddygol Brynmawr yn parhau ar gau tan amser cinio Dydd Gwener er diogelwch cleifion a staff. Oherwydd gwyntoedd cryfion yn yr ardal, mae strwythur y bwa coch ar dô'r adeilad wedi dod yn anniogel yn strwythurol.

 

Hoffem sicrhau cleifion bod staff yn ateb galwadau i'r feddygfa fel arfer a bod rhywun yn cysylltu ag unrhyw gleifion ag apwyntiadau ac yn cael cynnig eu hapwyntiad mewn lleoliadau lleol amgen. Ar hyn o bryd mae'r Feddygfa ddeintyddol a chlinigau eraill sy'n gweithredu o'r Ganolfan Feddygol hefyd yn edrych ar ddarparu gwasanaethau mewn lleoliadau amgen.

 

Bydd Fferyllfa'r Ffynnon yn y Ganolfan Feddygol yn parhau ar gau tan ddydd Gwener. Cynghorir cleifion i ddefnyddio fferyllfeydd lleol eraill yn ystod y cyfnod byr hwn. Mae rhestr o Fferyllfeydd amgen yn yr ardal i'w gweld yma: http://www.choosewellwales.org.uk/directory/search/2
Yn ogystal, bydd codi a gollwng presgripsiynau yn cael ei weinyddu o gerbyd wedi'i frandio yn y maes parcio, yn ystod oriau gwaith arferol.

 

Disgwylir i beirianwyr symud Strwythur y Bwa Coch o'r adeilad yn barhaol ar Ddydd Gwener. Mae'n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra a achosir i gleifion ar yr adeg hon a diolch am eich dealltwriaeth wrth i ni weithio i ddatrys y mater hwn.