Yn ystod y degawd diwethaf, mae'r Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd cyson o ran lleihau'r defnydd o ynni ac Allyriadau Carbon.
Er 2009, mae'r Bwrdd Iechyd wedi torri Allyriadau Carbon gan 16,412 tunnell o CO2 - gostyngiad enfawr o 43% .
Rhwng 2009 a 2015, gwnaethom leihau ein defnydd o ynni gan 18%, gyda gostyngiad o 6% yn Allyriadau Carbon.
Er 2015, gwnaed effeithlonrwydd pellach, gan gynnwys gostyngiad o 13% yn y defnydd o drydan a gostyngiad o 4% yn y defnydd o nwy, gan arwain at ostyngiad pellach o 33% yn ein Allyriadau Carbon.
Ddoe (Dydd Mercher, 15fed Gorffennaf 2020), cymeradwyodd y Bwrdd Strategaeth Ynni Ystadau newydd y Bwrdd Iechyd, a fydd yn sbarduno arbedion ac effeithlonrwydd ynni pellach rhwng nawr a 2024.