Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth Profedigaeth Am Ddim gan eich Bwrdd Iechyd

Dydd Iau 12 Rhagfyr 2024

Taith Profedigaeth yw cwrs 7 wythnos a gynhelir gan The Parish Trust mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Wedi’i gynllunio ar gyfer
perthnasau pobl a gafodd eu gofalu amdanynt gan y Bwrdd Iechyd, mae’r cwrs yn archwilio profedigaeth ac yn cefnogi cyfranogwyr i brosesu eu galar eu hunain.
 

Beth sydd wedi'i gynnwys?
  • Deall galar a'i effaith
  • Rheoli emosiynau fel dicter a chydwybod euog
  • Ymdopi â’r ymatebion a symud ymlaen
  • Dewisol: Archwilio safbwyntiau sy'n seiliedig ar ffydd

Mae’r cwrs hwn yn rhad ac am ddim ond mae angen cofrestru gan fod lleoedd yn gyfyngedig.

Yn cychwyn ddydd Llun 6ed Ionawr 2025, am 7 wythnos.
11:00yb - 1:00yp
Ysbyty'r Sir, Ffordd Coed-y-Gric
Griffithstown, Pont-y-pŵl
Torfaen NP4 5YA

I gofrestru, sganio'r cod QR neu e-bostiwch abb.grace@wales.nhs.uk