Neidio i'r prif gynnwy

Cymryd Rhan yn y Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol ar Ddydd Mawrth 23 Mawrth 2021

Dydd Llun 22 Mawrth 2021

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cymryd rhan yn y Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol Ddydd Mawrth 23 Mawrth trwy oleuo chwech o'n hysbytai.

Mae'r Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol, a drefnir gan Marie Curie, yn cael ei gynnal ar ben-blwydd cyntaf cyfnod clo cyntaf y DU i alluogi pobl i fyfyrio ar ein colled ar y cyd a chefnogi'r rhai sydd mewn profedigaeth.

Rhwng 7pm a 9pm ar Ddydd Mawrth bydd chwe hysbyty ym mhob un o hardaloedd Awdurdodau Lleol y Bwrdd Iechyd yn cael eu goleuo mewn lliw melyn i gofio’r bobl hynny sydd wedi colli eu bywydau i Covid-19, yna o 9pm byddant yn cael eu goleuo â lliwiau enfys i symboleiddio gobaith ar gyfer dyfodol mwy disglair.

Yr hysbytai a fydd yn cael eu goleuo ar Ddydd Mawrth, a ddewisir i gynrychioli'r Bwrdd Iechyd cyfan, yw Ysbyty Cymunedol Cas-gwent, Ysbyty Ystrad Fawr, Ysbyty Aneurin Bevan, Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Nevill Hall, ac Ysbyty Athrofaol Y Faenor.

Gall unrhyw un sy'n cael trafferth gyda galar, neu sydd angen cefnogaeth, ddod o hyd i adnoddau profedigaeth am ddim a rhestr o sefydliadau a all helpu ar wefan Marie Curie.