Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Gwarchod Llywodraeth Cymru wedi'i oedi

Mae Llywodraeth Cymru yn oedi'r cynllun gwarchod yng Nghymru ar Ddydd Sul 16 Awst 2020.

Mae'r Infograffig canlynol o Lywodraeth Cymru yn darparu cyngor ar gadw'n ddiogel os ydych chi wedi bod yn gwarchod.

O 16 Awst, gallwch:
 
Fynd allan mwy- ond cadwch gysylltiadau i'r leiafrif pan fyddwch yn mynd allan.
Gwneud ymarfer corff- ystyriwch beth sy'n addas ar gyfer eich symudedd neu ffitrwydd.
Fynd i'r gwaith- siaradwch â'ch cyflogwr am newidiadau i'ch cadw'n ddiogel.
Fynd i siopa- ewch ar adegau tawelach a dim ond pan fydd angen.
Fynd i'r ysgol- os ydych yn yr ysgol, gallwch ddychwelyd ym mis Medi.
 
I gadw'n ddiogel pan fyddwch yn mynd allan, cynlluniwch ymlaen llaw a dyler:
 
- Cadw at ganllawiau Ymbellhau Cymdeithasol- 2 fetr neu 3 gam ar wahân.
- Golchi eich dwylo yn aml- cymrwch ddiheintydd dwylo gyda chi.
- Gwisgo gorchudd wyneb- lle bo angen.
 
Gyda'n gilydd, byddwn yn diogelu Cymru.