Neidio i'r prif gynnwy

Cystadleuaeth Enwi'r Arth i Ennill Arth Steiff Go Iawn

Dydd Gwener 13 Tachwedd 2020

Mae ein harth Dyfodol Clinigol wedi arddangos ar holl graffigau ein hymgyrch. Am waith gwych y mae ef wedi'i wneud yn ein cynorthwyo ni i hysbysu pobl ledled Gwent bod gwasanaethau gofal iechyd y GIG yn newid.

Ar ôl ei holl waith caled, rydym ni'n credu ei fod, o'r diwedd, yn haeddu enw, felly rydym yn cynnal cystadleuaeth 'Enwi'r Arth'.

Bydd enillydd lwcus y gystadleuaeth yn cael arth Steiff hyfryd, sydd wedi'i rhoi'n garedig gan gwmni lleol. (Llun isod)

 

Os hoffech chi gymryd rhan, ewch i'n tudalen Cystadleuaeth Enwi'r Arth ar ein gwefan. Pob lwc!

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 2pm ar Ddydd Iau 26 Tachwedd.