Dydd Gwener 25 Awst 2023
Heddiw buom yn dathlu dadorchuddio pedwar bwrdd stori newydd sy’n ymwneud â rhoi organau yn Ysbyty Athrofaol y Faenor.
Mae’r byrddau yn cynnwys dwy stori gan dderbynwyr organau; David Fellowes ac Angharad Rhodes, a dwy stori gan deuluoedd unigolion a rhoddodd eu horganau; Jamie Clayden a Sandra Beale. Bwriad y byrddau stori yw codi ymwybyddiaeth a dechrau trafodaethau gydag anwyliaid am roi organau.
Dadorchuddiwyd y byrddau stori ar y cyd gan Peter Carr, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddorau Iechyd, a Dr. Matthew Carwardine, Anesthetydd Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol ar gyfer Rhoi Organau, a Sharon Keightley, Nyrs Arbenigol ar gyfer Rhoi Organau.
"Fel Bwrdd Iechyd, rydym yn awyddus iawn i gefnogi rhoi organau. Mae hwn yn weithgaredd gwych er mwyn codi ymwybyddiaeth am roi organau, mewn rhan brysur o'r ysbyty, ac mae'n rhoi cyfle i bobl stopio, cymryd y wybodaeth i mewn a meddwl," meddai Peter Carr.
"Mae'n plannu'r hedyn ym meddwl pobl y gallan nhw ei gymryd i ffwrdd, cael sgyrsiau gyda'u teulu a meddwl am yr hyn maen nhw ei eisiau iddyn nhw eu hunain. Rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwerus."
Gwahoddwyd y derbynwyr organau a theuluoedd y rhoddwyr y mae eu straeon yn rhan o’r byrddau stori i’r dadorchuddiad.
"Derbyniais fy nhrawsblaniad un mlynedd ar ddeg yn ôl a diolch byth fod popeth yn mynd yn dda, does ond angen i mi fynd am brawf gwaed bob pedwar mis. Ond yn sicr fe newidiodd fy mywyd un mlynedd ar ddeg yn ôl." meddai derbynydd organau, David Fellowes.
"Os oes unrhyw un yn meddwl am roi organau, peidiwch â chymryd yn ganiataol ein bod, oherwydd ein bod ni yng Nghymru, wedi rhagdybio cydsyniad, peidiwch â'i adael fel hynny. Cofrestrwch eich enw'n swyddogol ac yn bwysicaf oll, siaradwch â'ch teulu fel eu bod yn ymwybodol hefyd.”
Mae'r byrddau ar lawr gwaelod yr ysbyty. Er mwyn eu gweld, cerddwch heibio'r lifftiau yn y brif dderbynfa i ben y gogledd (coridor gwyrdd).
Am ragor o wybodaeth ynghylch rhoi organau, a sut mae cofrestru eich penderfyniad, ewch i wefan Rhoi Organau'r GIG.