Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i roi'r gorau i ddefnyddio nwy desflurane hynod lygrol ledled ysbytai

Adran anesthetig Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) yw'r gyntaf yng Nghymru i roi'r gorau i ddefnyddio nwy desflurane sy'n hynod lygrol, ledled ei holl safleoedd ysbytai.

 

Mae gofal iechyd yn cyfrannu'n sylweddol at ôl troed carbon Cymru, a than yn ddiweddar, roedd 5% o holl allyriadau cynhesu byd eang sy'n ymwneud â gofal iechyd yng Nghymru yn dod o gyfryngau anesthetig, wedi'u defnyddio i gynnal anesthesia yn ystod llawdriniaethau. Y prif droseddwr yw cyfrwng anesthetig o'r enw desflurane.

Ar ddiwrnod arferol, gall Anesthetydd gynhyrchu hyd at 500kg cyfwerth â charbon deuocsid i'r atmosffer bob diwrnod, o gymharu â'r dinesydd arferol o'r DU sy'n cynhyrchu cyfwerth dyddiol o tua 25kg.

Mae gan desflurane 2540 gwaith mwy o botensial cynhesu byd eang (GWP) na CO2; mae hyn yn llawer uwch nag ein cyfrwng anadlu arall yr ydym yn ei ddefnyddio'n helaeth, sevoflurane, sydd â GWP gwerth 130, ac yn llawer uwch na thechnegau anesthetig eraill fel cyfryngau mewnwythiennol ac anesthesia ardal benodol.

Mae gan un awr yn unig o anesthesia desflurane yr un potensial cynhesu byd eang â gyrru 294 milltir mewn car petrol, o gymharu â 36 milltir ar gyfer sevoflurane a 12 milltir ar gyfer propoffol mewnwythiennol. Mae desflurane hefyd yn llawer mwy drud na sevoflurane, felly mae hefyd yn cynnig arbedion sylweddol i BIPAB.

Mae adrannau anesthetig ledled y DU yn ceisio lleihau'r defnydd o desflurane ac yn anelu at roi'r gorau i ddefnyddio'r cyfrwng hwn yn llwyr cyn gynted â phosibl. Mae'r Undeb Ewropeaidd yn creu deddfwriaeth i wahardd ei ddefnyddio'n llwyr erbyn 1 Ionawr 2026.

Yn 2019, cytunodd dîm o anesthetyddion ledled Cymru i gydweithio er mwyn annog ein cydweithwyr i leihau ein defnydd o desflurane yn sylweddol, drwy ddefnyddio opsiynau amgen, gyda'r nod o roi'r gorau i'w ddefnyddio'n llwyr yn y pen draw.

"Mae'n braf gwybod, os ydym yn gwneud newidiadau gwyrddach yn ein hymarfer, ein bod yn lleihau effaith niweidiol rhai o'r cyfryngau rydym wedi bod yn eu defnyddio'n hanesyddol ar y blaned yn gyffredinol," dywedodd James Florence, Anesthetydd dan Hyfforddiant.

"Mae'n rhywbeth y mae angen i ni fod yn fwy ystyrlon ohono, ac rydym yn dod yn fwy ystyrlon wrth ddatblygu ein harferion a pheidio ag effeithio ar lefel y gofal rydym yn ei gynnig i'n cleifion." Ychwanegodd James.

Ar ôl penderfyniad ar y cyd gan bob elfen o adran anesthetig y bwrdd iechyd, mae Dr Rachel Walpole a grŵp o hyfforddeion ymrwymedig wedi arwain y gwaith o roi'r gorau i ddefnyddio'r nwy. Mae'n gam sylweddol arall at gyrraedd gofal iechyd gwyrddach yng Nghymru.