Neidio i'r prif gynnwy

Darganfuwyd Capsiwl Amser ar safle Datblygu Tredegar

Fel rhan o ddathliadau Pen-blwydd y GIG yn 75, ar ddydd Llun 3 Gorffennaf rhannodd y BBC stori am gapsiwl amser a oedd yn dyddio’n ôl 120 o flynyddoedd. Canfuwyd y capsiwl amser yn 2020 ar safle datblygu hen Ysbyty Tredegar a gafodd ei ddymchwel er mwyn adeiladu Canolfan Iechyd a Lles Bevan, gwerth £19m, y disgwylir iddi agor yn ddiweddarach eleni.

Cafodd y capsiwl ei agor ar 20 Gorffennaf 2022 ym Mhrifysgol Caerdydd gan ddau arbenigwr, a chanfuwyd hen ddarnau arian a phapurau newydd.

Mae cynnwys y capsiwl bellach yn cael eu  harddangos yn amgueddfa leol Tredegar a byddant, yn y pen draw, yn cael eu harddangos yng Nghanolfan Iechyd a Lles Bevan.

I ddarllen y stori lawn, ewch i: Darganfod capsiwl amser yng nghartref ysbrydol y GIG - BBC Cymru Fyw 

I weld amseroedd agor a rhagor o wybodaeth am Amgueddfa Tredegar, ewch i: Amgueddfa Hanes Leol Tredegar | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk)