Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu Strategaeth Gwasanaethau Arbenigol ac Ymgysylltu

 

 

 

Dydd Mawrth Medi 27ain

Mae Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) yn ysgrifennu strategaeth 10 mlynedd newydd ar gyfer gwasanaethau arbenigol i drigolion Cymru a’i phoblogaeth gyfrifol.


I gefnogi datblygiad y strategaeth, rydym yn ymgysylltu â grwpiau rhanddeiliaid allweddol i gasglu eu barn ar ddyfodol gwasanaethau arbenigol, yn ogystal â’r gwerth pellach y gall WHSSC ei ychwanegu fel un o brif gyrff comisiynu’r GIG ar gyfer gwasanaethau arbenigol yng Nghymru. .

 

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) yn Gydbwyllgor o'r saith Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) yng Nghymru. Mae'r saith BILl yn gyfrifol am ddiwallu anghenion iechyd eu poblogaeth breswyl, ac maent wedi dirprwyo'r cyfrifoldeb am gomisiynu ystod o wasanaethau arbenigol i PGIAC. Cydnabyddir nad yw pob gwasanaeth arbenigol, fel y’i diffinnir yn Llawlyfr Gwasanaethau Rhagnodedig GIG Lloegr, wedi’u dirprwyo, ac mae portffolio bach yn parhau i fod yn gyfrifoldeb comisiynu i fyrddau iechyd.


Nod datblygu strategaeth gwasanaethau arbenigol yw sicrhau y gall trigolion Cymru yn awr, ac yn y dyfodol, gael mynediad cyfartal at wasanaethau arbenigol o ansawdd uchel, sy’n glinigol effeithiol, yn cynnig y profiad a’r canlyniadau clinigol gorau i gleifion a’r boblogaeth, a chynyddu'r gwerth sy'n deillio o'r adnoddau sydd ar gael.

 

Mae datblygu strategaeth gwasanaethau arbenigol ar ôl COVID-19 bellach yn rhoi’r cyfle i lunio’r cyfeiriad i ganolbwyntio ar adferiad, gwerth, ac i fanteisio ar dechnolegau newydd a ffyrdd arloesol o weithio.

Oherwydd cyflymder y newid mewn gwasanaethau arbenigol bydd angen adolygu'r strategaeth ymhen 5 mlynedd i ystyried a yw'n parhau i fod yn addas i'r diben ar gyfer y cyfnod 5 mlynedd nesaf.

 

Bydd ein proses ymgysylltu yn dechrau ar 27fed o Fedi ac yn rhedeg tan 22ain o  Ragfyr 2022. Bydd y strategaeth yn cael ei datblygu fel cynnyrch y broses ymgysylltu yn barod ar gyfer Mai 2023 i lywio Cynllun Comisiynu Integredig PGIAC a Chynlluniau Tymor Canolig Integredig (IMTPs) y Bwrdd Iechyd ar gyfer 2024 a thu hwnt.

Mae PGIAC yn chwilio am eich cefnogaeth wrth ysgrifennu'r cynllun trwy ofyn nifer o gwestiynau yr hoffent gael eich barn arnynt.

 

Strategaeth Gwasanaeth Arbenigol 10 Mlynedd - Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (nhs.wales)