Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad y Bwrdd Iechyd ar Goncrit Awyredig Awtoclaf Cyfnerthedig (RAAC) a ddarganfuwyd yn Ysbyty Nevill Hall

Dydd Gwener 18 Awst 2023

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cynnal asesiadau trylwyr o nifer yr achosion o Goncrit Awyredig Aeradwyr Cyfnerthedig (RAAC), o ganlyniad i broblem a nodwyd gyda RAAC mewn amrywiaeth o adeiladau’r GIG a’r sector cyhoeddus eraill ledled y DU, gan gynnwys sawl eiddo yng Nghymru, gydag Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni yn un ohonynt.

Hoffem sicrhau i’n cleifion, staff a chymunedau bod ein sefyllfa yn wahanol i’r un yn Ysbyty Llwynhelyg (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda), a chyhoeddir ar y newyddion yn ddiweddar. Ar hyn o bryd, mae maint y broblem yn Llwynhelyg yn cael effaith sylweddol ar ddarparu gwasanaethau ar y safle a, hyd yma, mae tair ward wedi’u cau yn yr ysbyty. Bu hyn yn arwain at drosglwyddo cleifion i ysbytai eraill yng Ngorllewin Cymru, a dyma’r rheswm i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyhoeddi digwyddiad mawr.

Diolch byth, nid ydym yn y sefyllfa honno – er ein bod wedi gorfod cau 4 swyddfa, rhan fechan o’r bwyty a’r Capel (a fydd ar gau o Ddydd Gwener 18eg o Awst wrth ddisgwyl gwaith pellach), ni effeithiwyd ar unrhyw ardaloedd cleifion clinigol ar hyn o bryd.

Rydym yn parhau i gynnal archwiliadau rheolaidd i sicrhau bod y safle’n parhau i fod yn ddiogel ac i ganfod maint ac effaith ariannol y broblem hon, ac rydym wedi gwneud y gwaith adfer dros dro hwn yn y cyfamser. Wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo, bydd y Bwrdd Iechyd, ochr yn ochr â pheirianwyr strwythurol arbenigol, Ystadau GIG Cymru, a Llywodraeth Cymru, yn ystyried maint llawn y gwaith sydd ei angen yn yr ysbyty.

Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'n cleifion, staff a chymunedau am ganlyniad y gwaith parhaus hwn.