Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Ymweld ag Ysbyty

Cyhoeddwyd Datganiad Ymweld Ysbytai ddydd Gwener 30ain Gorffennaf 2021

Rydym yn gwerthfawrogi pa mor bwysig yw hi i gleifion a'u hanwyliaid weld ei gilydd wrth iddynt dderbyn gofal.

Wrth i gyfraddau heintiau barhau i godi yn ein hardal, rydym yn cynnal ein trefniadau ymweld cyfredol ac yn cymryd rhagofalon ychwanegol i gadw ein cleifion a'n staff yn ddiogel. Rhaid cytuno ar ymweliadau â'r ward sy'n gofalu am y claf, yna byddwn yn cysylltu â chi i wneud apwyntiad. Mae ein hamseroedd ymweld rhwng 11:30 a 18:30, saith diwrnod yr wythnos ar draws ein holl ysbytai.

Rydym yn gwneud apwyntiadau fel y gallwn reoli nifer y bobl sydd gennym ar ein safleoedd ar unrhyw un adeg i helpu gyda'n mesurau rheoli heintiau. Pan gyrhaeddwch y safle ar gyfer eich ymweliad byddwn yn eich helpu i wneud prawf llif ochrol, cymryd eich tymheredd a gofyn cwestiynau sgrinio i chi. Ni all ein timau dderbyn ymweliadau heb apwyntiad.

Mae eithriadau i'r trefniadau hyn ar gyfer cleifion sy'n derbyn gofal diwedd oes a dylid trafod y rhain gyda thîm clinigol y claf. Mae yna hefyd drefniadau gwahanol ar gyfer partneriaid geni a dylid trafod y rhain gyda'r tîm mamolaeth.

 

Diolch am eich cydweithrediad a'n helpu i gadw ein hysbytai yn lleoedd diogel i'n cleifion a'n staff.