Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Ymweliadau Hysbyty - 9 Ionawr 2022

Gwerthfawrogir Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan pa mor bwysig yw hi i gleifion a'u hanwyliaid weld ei gilydd wrth iddynt dderbyn gofal yn yr ysbyty. Mae angen i ni gydbwyso hyn yn ofalus â'r risg i gleifion, aelodau o'r teulu a'r staff y mae ymweldiadau yn ei achosi tra bod Covid mor amlwg yn y gymuned.

Oherwydd yr heriau cynyddol a wynebir o ganlyniad i'r amrywiad Omicron newydd ac er mwyn amddiffyn diogelwch cleifion a staff, bydd y Bwrdd Iechyd nawr yn gweithredu ymweliadau hanfodol yn unig o Ddydd Llun 10 Ionawr 2022.

Nid yw'r newidiadau hyn yn cynnwys pediatreg a babanod newydd-anedig, lle argymhellir uchafswm o ddau ymwelydd y dydd.

Caiff ymweliadau hanfodol eu cefnogi lle bynnag y bo modd ac yn cynnwys yr enghreifftiau canlynol:

  • Partner genedigaeth yn cefnogi menyw yn ystod ymweliadau ysbyty ac yn ystod esgor;
  • Person sy'n derbyn gofal diwedd oes ac yn ei oriau olaf;
  • Cefnogi rhywun â mater iechyd meddwl, dementia, awtistiaeth neu anabledd dysgu lle na fyddai bod yn bresennol yn achosi i'r claf fod mewn trallod;
  • I fynd gyda phlentyn y mae'n ofynnol iddo fynychu'r ysbyty;
  • Mewn sefyllfaoedd pan fydd rhywun yn derbyn gwybodaeth am salwch neu driniaethau sy'n newid bywyd.

Rhaid i bob ymwelydd fod heb unrhyw symptomau o Covid-19 a rhaid iddynt gynnig tystiolaeth o ganlyniad prawf llif unffordd negyddol. Yn ychwanegol, rhaid iddynt wisgo orchuddwyneb (oni bai ei fod wedi'i eithrio) a chadw at ofynion pellter cymdeithasol a hylendid dwylo.

Rhaid trefnu unrhyw drefniadau ymweld â'r ward ymlaen llaw ac ni chaniateir mynediad i unrhyw ymwelwyr sy'n mynychu'r ysbyty heb drefniant ymlaen llaw.

Gallwch gael profion llif unffordd trwy:

Hoffem ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd, eu goddefgarwch a'u cefnogaeth yn ystod yr amser anhygoel o anodd a heriol hwn.