Ddoe ar Ddiwrnod Rhyngwladol Nyrsys byddwn yn rhannu straeon gan Nyrsys ar draws y Bwrdd Iechyd ac yn dod atoch yn fyw o Ysbyty Ystrad Fawr ar Facebook.
Gallwch wylio'r Facebook Live o heddiw yma: https://bit.ly/3MeRHfF
Ac edrychwch ar ein Twitter ac Instagram am lawer o gynnwys cyffrous!
Ddoe cyfarfu Prif Swyddog Nyrsio Cymru Sue Tranka â phum nyrs wedi’u hyfforddi’n rhyngwladol sydd wedi ymuno â’r Bwrdd Iechyd yr wythnos hon. Roedd cwrdd â’r nyrsys yn ystod eu hwythnos gyntaf yn arbennig o deimladwy i Sue, a wnaeth ymuno â’r GIG fel nyrs ei hun yn 1999 fel rhan o raglen ryngwladol debyg.
Wrth gwrdd â’r tîm yn Ysbyty Nevill Hall, dywedodd Sue: “Roedd hi’n arbennig iawn cwrdd â’r nyrsys newydd heddiw gan fy mod i wedi ymuno â’r GIG mewn ffordd debyg. Rwy’n gwybod y byddant yn llawn cyffro am y cyfleoedd newydd sydd ar gael iddynt, a dymunaf y gorau iddynt gyda’u gyrfa newydd a’u bywydau yng Nghymru. Rwy’n gwybod fy hun y bydd GIG Cymru yn rhoi croeso cynnes iddynt, gan fy mod i wedi cael croeso arbennig ers i mi ymuno fel Prif Swyddog Nyrsio’r llynedd.
Ymwelodd Karen Jewell, Prif Swyddog Bydwreigiaeth Cymru â Chanolfan Blant Serennu yng Nghasnewydd a chyfarfod â rhai o Dîm Nyrsio Plant y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys Linda Jones (Nyrs Arweiniol, Addysg, Datblygu a Rheoleiddio), Sian Thomas (Nyrs Ymgynghorol Iechyd Plant), Donna Colwill (Rheolwr Gwella a Datblygu’r Canolfan Plant), Sian Price (Arweinydd Tîm Nyrsio Plant Cymunedol) a Paula Browne (Arweinydd Tîm Nyrsio Plant Cymunedol).
Mae Canolfan Blant Serennu yn ganolfan bwrpasol sy’n rhoi gofal, triniaeth a gweithgareddau i blant a phobl ifanc gydag anableddau ac anawsterau datblygiadol. Gwnaeth y cyfleusterau gwych mae’r ganolfan yn gynnig, sy’n cynnwys sinema, pwll hydrotherapi, ardal synhwyraidd a wal ddringo, gryn argraff ar Karen.
Dywedodd Karen: “Rwyf eisiau diolch i’r holl nyrsys sy’n gwneud gwaith gwych bob dydd a gobeithio eich bod i gyd yn mwynhau’r dathlu… Mae wedi bod yn braf iawn cael bod yma ac i ddathlu gyda phawb a’r tîm yn Serennu”.
Ddoe ar Ddiwrnod Rhyngwladol Nyrsys dyfarnwyd Gwobr Ragoriaeth CNO i’n Haddysgwr Ymarfer Maria Cruz.
Symudodd Maria hanner ffordd ar draws y byd o Ynysoedd Philippines gyda’i theulu i greu cartref newydd yma yng Nghymru, bum mlynedd yn ôl yn unig, ac mae hi wedi datblygu ei gyrfa ers hynny.
Dywedodd CNO Sue Tranka; “Mae Maria yn serennu ym myd nyrsio yng Nghymru. Mae ei chymhelliant a’i brwdfrydedd dros ei gyrfa ei hun a gyrfaoedd eraill yn rhyfeddol.”
Wrth siarad â’r nyrsys newydd eu recriwtio, sydd wedi’u hyfforddi’n rhyngwladol, yn Nevill Hall, dywedodd Maria: “Rwyf mor falch o dderbyn y wobr hon. Rwyf wrth fy modd gyda fy swydd; hon yw gyrfa fy mreuddwydion. Rwy’n brawf byw ein bod yn gallu llwyddo.”
I orffen diwrnod bendigedig o ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys, gwnaethom holi rhai o’n staff pam eu bod yn mwynhau bod yn nyrs...