Llongyfarchiadau i Dîm Radioleg Ymyrrol Gwent a’r Gwasanaeth Cyswllt Torri Esgyrn ar eu llwyddiant yng Ngwobrau Arloesedd MediWales 2024!
Enillodd y Tîm Radioleg y Wobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal gyda Diwydiant am eu triniaeth arloesol ar gyfer osteoarthritis pen-glin, gwella symudedd ac ansawdd bywyd.
Derbyniodd y Gwasanaeth Cyswllt Torri Esgyrn Wobr y Beirniaid Iechyd a Gofal am eu gwaith rhagorol ym maes gofal osteoporosis, gan osod safon genedlaethol mewn iechyd esgyrn.